Mae angen mwy o ffocws ar gynnydd addysgol ar gyfer dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal

Mae ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion ac awdurdodau lleol yn dangos ymrwymiad cryf i gefnogi dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal, ond mae angen iddynt wneud mwy i ddeall sut mae eu cymorth yn gwella cynnydd a chyflawniad addysgol, yn ôl adroddiad newydd gan Estyn, a gyhoeddwyd heddiw.
Mae’r adroddiad, Yn Hysbys, Yn Cael Eu Cynnwys Ac Yn Uchelgeisiol: Hybu addysg dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal, yn archwilio pa mor effeithiol y mae ysgolion a gynhelir, UCDau ac awdurdodau lleol yng Nghymru yn gwella profiadau addysgol, lles a dyheadau dysgwyr rhwng 3 ac 16 oed sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Ystyriodd brofiadau plant a oedd yn derbyn gofal, a fabwysiadwyd o ofal, a oedd yn byw dan drefniadau gofal gan berthynas, a oedd yn destun gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig neu blant a oedd wedi derbyn gofal yn flaenorol.
Mae’r adroddiad yn canfod bod dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn fwyaf tebygol o ffynnu pan fyddant yn hysbys ac yn cael eu deall fel unigolion, yn cael eu cynnwys yn llawn mewn addysg ac yn cael eu cefnogi gan oedolion sy’n parhau i fod yn uchelgeisiol ar gyfer eu dysgu a’u dyfodol.
Mae’n dangos bod llawer o staff yn adnabod dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn dda ac yn eu helpu i deimlo’n ddiogel, eu bod yn cael eu cynnwys a’u bod yn cael eu cefnogi. Mae’r darparwyr cryfaf yn cyfuno hyn â disgwyliadau uchelgeisiol ar gyfer dysgu a chyfleoedd yn y dyfodol.
Un o’r canfyddiadau canolog oedd bod darparwyr yn fwy llwyddiannus, yn gyffredinol, wrth ddisgrifio’r cymorth y maent yn ei gynnig nag wrth ddangos ei effaith ar gynnydd, cyrhaeddiad a deilliannau tymor hwy dysgwyr. Yn aml, caiff presenoldeb, ymddygiad a lles eu monitro’n fwy cyson na chyflawniad addysgol.
Yn gyffredinol, mae ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion ac awdurdodau lleol yn gallu nodi a monitro plant sy’n derbyn gofal ar hyn o bryd yn well. Mae cymorth yn llai cyson i ddysgwyr sy’n cael eu mabwysiadu o ofal, sy’n byw dan drefniadau gofal gan berthynas neu dan orchmynion gwarcheidiaeth arbennig, neu a oedd yn derbyn gofal yn flaenorol. Mae hyn yn cyfyngu ar allu darparwyr i nodi anghenion sy’n dod i’r amlwg, ymyrryd yn gynnar a gwerthuso deilliannau ar gyfer y dysgwyr hyn.
Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynnal parhad addysgol yn ystod newidiadau i leoliadau neu ysgolion, gan gynnwys parhad perthnasoedd dibynadwy ac addysg cyfrwng Cymraeg, lle bo hynny’n briodol.
Tynnodd dysgwyr sylw yn gyson at bwysigrwydd oedolion dibynadwy sy’n gwrando, yn deall eu hamgylchiadau ac yn cynnig cymorth cyson. Er bod llawer o ddarparwyr yn ceisio safbwyntiau dysgwyr, nid yw’r rhain yn dylanwadu ar benderfyniadau am eu haddysg bob tro. Tynnodd dysgwyr sylw hefyd at yr angen am breifatrwydd a thrin gwybodaeth bersonol yn ofalus, fel nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu hynysu oherwydd eu profiad o fod mewn gofal.
Dywedodd Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Owen Evans:
“Mae llawer i’w gydnabod yn ymrwymiad staff sy’n helpu dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal i deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys. Mae’r arfer gryfaf yn cyfuno’r cymorth hyn â disgwyliadau uchel o’r hyn y gall pob dysgwr ei gyflawni.
“Mae angen dealltwriaeth gliriach arnom o ba ddulliau sy’n helpu dysgwyr i wneud cynnydd a chyflawni’n dda. Mae gwrando ar ddysgwyr, deall eu hamgylchiadau unigol a chynnal parhad yn eu haddysg yn hanfodol i’w helpu i elwa ar gyfleoedd yn y dyfodol a gwerthuso effaith cymorth ar eu cynnydd a’u deilliannau.
Mae’r adroddiad yn argymell bod ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion yn gosod disgwyliadau uchelgeisiol ar gyfer dysgwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal, yn sicrhau y gallant fanteisio’n deg ar ddysgu a chyfleoedd yn y dyfodol, ac yn asesu pa mor dda y mae cymorth yn eu helpu i wneud cynnydd.”
Dylai awdurdodau lleol gryfhau sut maent yn monitro deilliannau addysgol, craffu ar effaith cymorth a chydweithio â phartneriaid i gynnal parhad pan fydd lleoliadau neu ysgolion yn newid. Mae Estyn hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru egluro disgwyliadau cenedlaethol ac adolygu a yw arweiniad, cyllid a threfniadau atebolrwydd yn cefnogi darpariaeth gyson a theg, gan barchu dewisiadau dysgwyr a theuluoedd ynghylch datgelu a chyfrinachedd.