Erthyglau newyddion |

Mae angen i ysgolion cynradd nodi eu cryfderau a’u gwendidau yn well mewn gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg

Share this page

Erbyn diwedd yr ysgol gynradd, mae llawer o ddisgyblion ledled Cymru wedi datblygu dealltwriaeth dda o gysyniadau gwyddoniaeth sylfaenol fel disgyrchiant a magneteg. Mae bron pob disgybl yn deall pwysigrwydd cynnal ymchwiliadau’n ofalus, ac mae llawer o ddisgyblion yn datblygu eu medrau meddwl yn dda mewn gwyddoniaeth.

Fodd bynnag, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Estyn, dylai ysgolion cynradd sicrhau bod gwersi gwyddoniaeth yn herio pob disgybl, yn enwedig y rhai mwy abl, ac yn lleihau’r bwlch o ran cyflawniad rhwng disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’u cyfoedion. 

Mae adroddiad Estyn, Gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg yng nghyfnod allweddol 2, yn canolbwyntio ar safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth mewn gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg mewn ysgolion cynradd yng Nghymru.  Mae’n argymell y dylai ysgolion wneud yn siŵr eu bod yn addysgu holl feysydd y cwricwlwm dylunio a thechnoleg.  Canfu’r adroddiad fod yr ysgolion nad ydynt yn gwneud hynny, yn tueddu i hepgor maes ‘systemau a rheolaeth’ y cwricwlwm, ble mae disgyblion yn defnyddio eitemau a reolir gan gyfrifiadur, fel teganau rhaglenadwy, a’u rheoli trwy greu cyfarwyddiadau.  

Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd, 

“Er mwyn i ysgolion nodi ble mae eu cryfderau a’u gwendidau mewn gwyddoniaeth ac mewn dylunio a thechnoleg, rhaid iddyn nhw gael prosesau hunanarfarnu cryf ar waith.  Mae ein hadroddiad yn cynnwys un deg pedwar cwestiwn hunanarfarnu y gall ysgolion eu defnyddio fel man cychwyn ar gyfer adolygu eu harfer bresennol.”

Yn ôl yr adroddiad, dylai ysgolion sicrhau hefyd fod disgyblion yn gwybod ac yn deall yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i wella.  Mewn enghraifft o arfer orau yn  Ysgol Gynradd Castell-nedd, canfu arfarniad athro fod mwyafrif y disgyblion yn ei chael yn anodd penderfynu ar y math gorau o graff i’w ddefnyddio i gyflwyno gwahanol fathau o ddata gwyddoniaeth.  Arweiniodd hyn at gyfres o wersi i fynd i’r afael â’r mater, a daeth bron pob disgybl yn hyderus yn darlunio’r graff cywir pan wnaethant eu hymchwiliad nesaf. 

Mae’r adroddiad yn argymell hefyd y dylai awdurdodau lleol a chonsortia ddarparu mwy o gyfleoedd hyfforddi ar gyfer athrawon i wella eu haddysgu a’u hasesu mewn gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg, a hwyluso rhannu arfer dda. 

Ynglŷn â’r adroddiad

Comisiynwyd adroddiad Estyn ‘Gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg yng nghyfnod allweddol 2’ gan Lywodraeth Cymru, ac mae ar gael yn llawn yn https://www.estyn.llyw.cymru/adroddiadau-thematig

Mae’r canfyddiadau a’r argymhellion yn yr adroddiad hwn yn defnyddio’r dadansoddiad o arolygiadau ysgolion cynradd dros y tair blynedd ddiwethaf a dadansoddiad o ddata cyfnod allweddol 2 am y pum mlynedd ddiwethaf.  Cefnogwyd y dystiolaeth hon gan ymweliadau â 20 o ysgolion cynradd a chyfweliadau dros y ffôn â chwe ysgol arall.  Nododd Estyn yr ysgolion ar hap, gan sicrhau bod arolygwyr yn ymweld ag ystod o ysgolion ar sail maint, lleoliad daearyddol, cyfran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, iaith y cyfarwyddyd a nodwedd grefyddol. 

Yn ystod eu hymweliadau, bu arolygwyr: 

  • yn arsylwi gwersi gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg yng nghyfnod allweddol 2 
  • yn craffu ar waith disgyblion yn y ddau bwnc 
  • yn cyfarfod â grwpiau cynrychioliadol o ddisgyblion 
  • yn adolygu cynlluniau a dogfennau’r cwricwlwm 
  • yn cyfweld ag athrawon ac arweinwyr ysgol 

Mae astudiaethau achos o’r ysgolion canlynol wedi eu cynnwys yn yr adroddiad:

  • Ysgol Gynradd Victoria, Wrecsam
  • Ysgol Gynradd Castell-nedd, Castell-nedd
  • Ysgol Gynradd Llys Malpas
  • Ysgol Gymraeg Castellau, Rhondda Cynon Taf
  • Ysgol Gymunedol Llwyn yr Eos, Ceredigion