Erthyglau newyddion |

Mae addysg yn dechrau gwella, ond mae’r Prif Arolygydd yn annog ysgolion i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd

Share this page

Mae yna rai arwyddion cynnar o welliant mewn addysg yng Nghymru eleni, yn ôl y Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant yn ei Adroddiad Blynyddol a gyhoeddir heddiw. Mewn ysgolion cynradd, barnwyd bod safonau’n dda neu’n well mewn wyth o bob deg ysgol, i fyny o saith o bob deg ysgol y llynedd, ac mae’r gyfran a ddyfarnwyd yn rhagorol wedi dyblu o 4% i 8%. Mae safonau’n parhau’n dda neu well mewn hanner o ysgolion uwchradd, sef yr un peth â’r llynedd.

Dywed y Prif Arolygydd, Meilyr Rowlands,

Er mwyn i welliant barhau ac i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, mae angen i ysgolion roi blaenoriaeth i wella profiad disgyblion yn yr ystafell ddosbarth.  Yn aml, y nodwedd sy’n gwahaniaethu ysgolion y barnwyd eu bod yn rhagorol yn 2017-18 yw ansawdd yr addysgu a’r profiadau dysgu a ddarparant.

Mae’r ysgolion gorau wedi gosod y sylfeini ar gyfer addysg dda, ac yn ogystal maent yn cynnig profiadau ysgogol i ddisgyblion yn yr ystafell ddosbarth sy’n ymwneud â bywyd go iawn yn aml. Yn yr ysgolion hyn, ceir addysgu o ansawdd uchel ac arweinyddiaeth gref.

 Mae llawer i’w wneud i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd ac rwy’n annog ysgolion i ddarllen f’adroddiad blynyddol a defnyddio’i adnoddau er mwyn helpu’u hunanarfarnu a chynllunio gwelliant.

Mae ysgolion llwyddiannus fel Ysgol-y-Wern, Caerdydd, eisoes wedi mynd i’r afael â newid y cwricwlwm mewn ffordd gadarnhaol a brwdfrydig.  Maent yn cynnig profiadau cyfoethogi yn yr ystafell ddosbarth i herio disgyblon a datblygu’u medrau.  Mae athrawon yn cydnabod bod cynllunio cyfleoedd cyffrous, yn enwedig mewn cyd-destunau go iawn, yn allweddol i ennyn diddordeb disgyblion a’u helpu i ddod yn ddysgwyr gydol oes. 

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ganfyddiadau arolygu o feysydd addysg eraill a arolygwyd gan Estyn hefyd, gan gynnwys ysgolion pob oed, ysgolion arbennig, ysgolion a cholegau annibynnol, unedau cyfeirio disgyblion, gwasanaethau addysg llywodraeth leol, addysg bellach, dysgu yn y gwaith a Chymraeg i Oedolion.

Astudiaethau achos arfer orau

Pen-y-bont ar Ogwr
Meithrinfa Dydd Banana Moon

Caerdydd
Ysgol -Y -Wern
Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf
Ysgol Bro Edern

Sir Gaerfyrddin
Cylch Meithrin Cefneithin, Gorslas

Ceredigion
Ysgol Plascrug

Conwy
Ysgol y Gogarth

Sir Ddinbych
Martine’s Childcare
Cyngor Sir Ddinbych

Sir y Fflint
Ysgol yr Esgob
Ysgol Uwchradd Castell Alun

Gwynedd
Meithrinfa Seren Fach
Ysgol Uwchradd Tywyn
Ysgol Aran Hall

Sir Benfro
Ysgol y Preseli
Ysgol Baratoadol Redhill

Powys
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Gladestry
Tŷ Bronllys

Torfaen
Meithrinfa Bellevue

Abertawe
Ysgol Olchfa
Coleg Gŵyr Abertawe
Ysgol Gynradd Cwm Glas

Wrecsam
Ysgol Heulfan

Bro Morgannwg
Ysgol Westbourne
Dysgu Cymraeg Morgannwg, Prifysgol De Cymru