Hanfodion Estyn: Cefnogi Arweinwyr Canol i Yrru Gwelliant  - Estyn

Hanfodion Estyn: Cefnogi Arweinwyr Canol i Yrru Gwelliant 

Erthygl

Oedolyn a disgybl mewn cegin ddosbarth yn paratoi cymysgedd mewn powlen, gyda disgyblion eraill yn gweithio yn y cefndir.

Mae gan arweinwyr canol rôl hanfodol mewn llunio profiadau dysgu plant a phobl ifanc ledled Cymru. Mae eu gwaith wrth wraidd ansawdd addysgu, datblygu’r cwricwlwm a chynnydd dysgwyr.

Mae Hanfodion Estyn yn ymgyrch newydd a ddatblygwyd i gefnogi arweinwyr canol, athrawon a staff cymorth trwy ddarparu mewnwelediad clir a hygyrch i waith Estyn — a sut gellir ei ddefnyddio i gryfhau arfer mewn ysgolion ac UCDau.

Deall arolygu yn ymarferol

Weithiau, gall arolygu deimlo’n frawychus, yn enwedig ar gyfer arweinwyr canol sy’n cydbwyso cyfrifoldebau arwain ochr yn ochr ag addysgu o ddydd i ddydd. Nod Hanfodion Estyn yw chwalu dirgelwch y broses arolygu trwy esbonio sut beth yw arolygu yn ymarferol, ar beth mae arolygwyr yn canolbwyntio, a sut caiff sgyrsiau am arolygu eu cynnal.

Mae arolygu wedi’i seilio ar dystiolaeth, yn broffesiynol ac yn canolbwyntio ar welliant. Mae arolygwyr yn awyddus i ddeall y gwaith a wna arweinwyr canol, gan gynnwys sut maent yn gwerthuso’u darpariaeth, yn cefnogi staff, ac yn gwella deilliannau ar gyfer dysgwyr.

Arweinwyr canol yn y canol

Mae gwybodaeth arweinwyr canol am eu pwnc, eu sector neu’u maes cyfrifoldeb yn hanfodol yn ystod arolygiad. Mae Hanfodion Estyn yn amlygu rôl bwysig arweinwyr canol a sut beth yw arweinyddiaeth effeithiol ar draws gwahanol gyd-destunau.

Trwy rannu arweiniad ac enghreifftiau clir, mae Hanfodion Estyn yn cynorthwyo arweinwyr canol i ddisgrifio’u heffaith yn hyderus a defnyddio hunanwerthuso fel offeryn ystyrlon ar gyfer gwella.

Defnyddio adnoddau Estyn i gryfhau arfer

Mae Hanfodion Estyn yn dangos sut gall arweinwyr canol ddefnyddio adborth arolygu, adroddiadau thematig, arweiniad ac ystod gyfan o adnoddau Estyn i lywio cynllunio, dysgu proffesiynol a datblygiad pwnc.

Gall defnyddio tystiolaeth genedlaethol helpu addysgwyr i fyfyrio ar eu harfer eu hunain, nodi cryfderau a chynllunio’r camau nesaf gyda diben.

Dysgu gyda’n gilydd

Mae Hanfodion Estyn yn rhannu myfyrdodau gonest gan ysgolion ac UCDau ledled Cymru, gan amlygu heriau cyffredin a dulliau effeithiol. Mae dysgu oddi wrth bobl eraill yn helpu cryfhau’r system addysg gyfan ac yn cefnogi gwelliant parhaus ar gyfer dysgwyr.

Trwy Hanfodion Estyn, ein nod yw darparu offer ymarferol, sicrwydd a mewnwelediad ar gyfer arweinwyr canol — gan gefnogi arweinyddiaeth hyderus a gwelliant ystyrlon ar draws pob sector.

Gallwch ddysgu mwy yma:

Hanfodion Estyn: Pecyn cymorth i athrawon ar gyfer ysgolion ac UCDau