Fframwaith arolygu ar y cyd wedi’i ddiweddaru ar gyfer y sector nas cynhelir o fis Medi 2026 ymlaen - Estyn

Fframwaith arolygu ar y cyd wedi’i ddiweddaru ar gyfer y sector nas cynhelir o fis Medi 2026 ymlaen

Erthygl

Plentyn ac oedolyn yn cymryd rhan mewn gweithgaredd dysgu sy’n seiliedig ar natur mewn lleoliad blynyddoedd cynnar.

Bydd Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn cyflwyno fframwaith arolygu ar y cyd wedi’i ddiweddaru ar gyfer y sector nas cynhelir o fis Medi 2026 ymlaen.

Mae’r fframwaith wedi’i ddiweddaru yn cyflwyno dull cliriach sydd â mwy o ffocws, gan barhau i deimlo’n gyfarwydd i ddarparwyr. Bydd yn cyflwyno adroddiadau byrrach a mwy hygyrch sydd â ffocws cryfach ar yr hyn sydd bwysicaf i blant, rhieni ac ymarferwyr.

Er bod y fframwaith wedi’i adnewyddu, bydd y ffordd y mae arolygwyr yn gweithio gyda lleoliadau yn aros yr un fath, i raddau helaeth. Bydd arolygwyr yn parhau i arsylwi arfer, siarad gyda staff a deall profiadau plant.

Un newid allweddol yw symud o chwe thema i dair thema gliriach sydd â mwy o ffocws. Bydd hyn yn golygu bod adroddiadau arolygu’n fyrrach, yn haws i’w darllen ac yn fwy hygyrch i rieni ac ymarferwyr.

Bydd y dull adrodd wedi’i ddiweddaru hefyd yn esbonio’n gliriach sut mae arfer yn effeithio ar ddysgu, datblygiad a lles plant, gan gryfhau’r cysylltiad rhwng yr hyn y mae lleoliadau’n ei wneud a’r deilliannau i blant.

Dywedodd Prif Arolygydd Ei Fawrhydi, Owen Evans:

“Mae’r fframwaith arolygu newydd ar gyfer y sector nas cynhelir wedi cael ei lunio i ddarparu profiad arolygu mwy tryloyw, cefnogol ac ystyrlon, gan helpu darparwyr i barhau i gyflawni’r deilliannau gorau posibl i blant. Byddwn yn cydweithio’n agosach ag AGC trwy gydol y broses arolygu ac yn gobeithio y bydd y cydweithio cryfach hwn yn cynnig profiad mwy cyson i ddarparwyr.

“Mae’r fframwaith newydd wedi cael ei lunio trwy adolygu, ymgynghori a phrofi helaeth. Mae adborth wedi helpu i fireinio’r strwythur, gwella eglurder iaith a sicrhau bod ein gweithgarwch arolygu yn canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i blant. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ddatblygu’r gwaith hwn.”

Dywedodd Gillian Baranski, Prif Arolygydd AGC:

“Y fframwaith hwn wedi’i ddiweddaru yw canlyniad cydweithio gwirioneddol â’r sector ac rwy’n falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni gyda’n gilydd. Trwy symud i dair thema glir a ffocysedig, rydym yn sicrhau bod adroddiadau arolygu’n fwy hygyrch ac ystyrlon i ddarparwyr, rhieni ac ymarferwyr, fel ei gilydd. Mae’r newidiadau’n adlewyrchu ein hymrwymiad i gadw dysgu, datblygiad a lles plant wrth wraidd popeth a wnawn, gan sicrhau bod y profiadau arolygu yn parhau i fod yn gyfarwydd ac yn gefnogol i’r lleoliadau rydym yn gweithio â nhw.”

Bydd y fframwaith wedi’i ddiweddaru yn cael ei gyflwyno’n o fis Medi 2026 ymlaen. Caiff darparwyr eu cefnogi ag arweiniad adnewyddedig, deunyddiau ymarferol a mewnwelediadau o arolygiadau cynnar.

Mae’r arweiniad arolygu wedi’i ddiweddaru i’w weld yma: