Estyn yn cyflwyno adroddiadau newydd i ddisgyblion i wneud canfyddiadau arolygu yn fwy hygyrch i ddysgwyr - Estyn

Estyn yn cyflwyno adroddiadau newydd i ddisgyblion i wneud canfyddiadau arolygu yn fwy hygyrch i ddysgwyr

Erthygl

Plant yn gweithio gyda’i gilydd ar weithgaredd dysgu yn y dosbarth gan ddefnyddio taflenni gwaith a beiros lliw.

Mae Estyn yn cyflwyno adroddiadau newydd i ddisgyblion ac adroddiadau sy’n Hawdd eu Deall i helpu gwneud canfyddiadau arolygu yn fwy hygyrch ac ystyrlon ar gyfer plant a phobl ifanc ledled Cymru.

Mae’r adroddiadau wedi cael eu cynllunio’n benodol ar gyfer dysgwyr, gan ddefnyddio iaith glir ac sy’n briodol i oedran i esbonio beth ganfu arolygwyr yn ystod arolygiad ysgol. Byddant yn mynd ochr yn ochr â phrif adroddiadau arolygu Estyn ac yn rhoi crynodeb hygyrch i ddisgyblion o ganfyddiadau allweddol am eu hysgol.

Mae gan ddysgwyr eisoes rôl bwysig yn y broses arolygu. Mae arolygwyr yn siarad yn uniongyrchol â disgyblion yn ystod arolygiadau i ddeall eu profiadau o fywyd ysgol, addysgu a dysgu, lles, a sut maent yn teimlo’u bod yn cael eu cefnogi yn eu haddysg. Mae’r safbwyntiau hyn yn cyfrannu’n sylweddol at ganfyddiadau arolygu.

Mae cyflwyno adroddiadau disgyblion yn gam nesaf cadarnhaol wrth sicrhau bod dysgwyr hefyd yn gallu cael mynediad at ddeilliannau arolygiadau, a’u deall, mewn fformat sydd wedi’i gynllunio ar eu cyfer nhw.

Mae tystiolaeth o weithgarwch arolygu yn dangos, lle mae dysgwyr yn cymryd rhan mewn cefnogi gwelliant ysgol, bod cynnydd yn aml yn gyflymach ac yn fwy cynaledig. Trwy wneud adroddiadau’n haws i blant a phobl ifanc ymgysylltu â nhw, mae Estyn yn gobeithio annog mwy o ymglymiad mewn sgyrsiau am welliant ysgol a chryfhau llais y dysgwr ar draws cymunedau ysgolion.

Bydd yr adroddiadau yn helpu disgyblion i ddeall beth mae eu hysgol yn ei wneud yn dda, meysydd i’w gwella a nodwyd, a sut mae eu profiadau a’u barn yn helpu ffurfio deilliannau arolygu.

Dywedodd y Prif Arolygydd, Owen Evans:

“Dylai plant a phobl ifanc allu deall beth mae canfyddiadau arolygu yn ei ddweud am eu hysgol, a theimlo’u bod yn cael eu cynnwys mewn sgyrsiau am welliant. Mae’r adroddiadau newydd hyn i ddisgyblion yn gam pwysig wrth wneud ein gwaith yn fwy hygyrch, difyr ac ystyrlon ar gyfer dysgwyr ledled Cymru.”

Bydd yr adroddiadau newydd i ddisgyblion yn dechrau cael eu cyflwyno ar y cyd ag adroddiadau arolygu a gyhoeddir gan Estyn o ddechrau’r tymor ym mis Medi.