Estyn yn croesawu ffocws Llywodraeth Cymru ar lythrennedd a mathemateg ac yn ychwanegu mathemateg at ei ffocws manylach
Mae Estyn yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru gyda ffocws clir ar fathemateg a darllen. Mae adroddiadau blynyddol Estyn wedi tynnu sylw at wendidau systematig yn y meysydd hyn ac mae gan Estyn rôl i’w chwarae, fel pob ymarferydd addysg, wrth godi safonau. Yn 2025, cyhoeddodd Estyn ei ffocws manylach ar ddarllen. Mae tystiolaeth arolygu a’n hadroddiadau blynyddol yn dangos bod darpariaeth ddarllen effeithiol yn datblygu medrau cyn-darllen sylfaenol dysgwyr, eu hymwybyddiaeth ffonolegol, rhuglder, geirfa, dealltwriaeth ieithyddol a’u meddwl beirniadol, gan alluogi dysgwyr i ymgysylltu’n hyderus â thestunau mwyfwy cymhleth.
Mae’r ffocws manylach hwn bellach ar waith, gyda phob gweithgarwch arolygu yn cael golwg fanylach ar gynllunio, cyflwyno ac, yn bwysicaf oll, deilliannau darllen mewn lleoliad. Yn rhan o’r ffocws manylach hwn, mae Estyn yn parhau i gydnabod bod dulliau ffoneg synthetig systematig yn elfen bwysig o addysgu darllen i ddysgwyr ym mhob ysgol brif ffrwd. Bydd ysgolion, wrth gwrs, yn mabwysiadu eu dulliau yn dibynnu ar anghenion unigol y dysgwyr.
Heddiw, mae Estyn yn cyhoeddi, er mwyn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru, y bydd yn datblygu ffocws manylach ar fathemateg yn ei holl weithgareddau arolygu a thematig, i’w ddatblygu dros y flwyddyn nesaf. Mae’r ffocws manylach hwn yn ychwanegol at ddarllen a bydd yn cael ei gyflwyno ym mis Medi 2027.
Mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau sy’n ymwneud â ffocws manylach Estyn ar ddarllen ar gael yma:
Bydd Estyn a Dysgu yn cynnal cynhadledd ddarllen genedlaethol yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 17 Chwefror 2027, gan ddod â gweithwyr addysg proffesiynol o bob cwr o Gymru ynghyd i archwilio dulliau effeithiol o wella safonau darllen a datblygu strategaethau darllen ysgol gyfan. Bydd cofrestru’n agor ar 30 Medi, gyda rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y gynhadledd: