Estyn i arddangos yn Sioe Addysg Genedlaethol 2026 - Estyn

Estyn i arddangos yn Sioe Addysg Genedlaethol 2026

Erthygl

Bydd Estyn yn arddangos yn y Sioe Addysg Genedlaethol yng Nghaerdydd ar 2 Hydref, gan roi cyfle i weithwyr addysg proffesiynol gwrdd â’n tîm, dysgu mwy am ein gwaith ac archwilio’r adnoddau sydd ar gael i gefnogi gwelliant.

Drwy gydol y dydd, byddwn ar stondin 97, lle byddwn yn siarad am ein dull o arolygu ac ymweliadau interim, gan gynnwys ein ffocws cryfach ar ddarllen. Byddwn hefyd yn rhannu adnoddau ymarferol i gefnogi gwelliant, gyda ffocws penodol ar yr adnoddau sydd ar gael i helpu arweinwyr canol i fyfyrio ar eu harfer a’i chryfhau.

Mae’r digwyddiad hefyd yn gyfle pwysig i ni wrando. Rydym yn awyddus i glywed gan arweinwyr canol am ba mor dda y maent yn deall gwaith Estyn, sut maent yn ymgysylltu â ni, a pha mor ddefnyddiol yw ein hadnoddau yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Bydd yr adborth hwn yn ein helpu i barhau i sicrhau bod ein hadnoddau’n berthnasol, yn hygyrch ac yn ddefnyddiol i’r gweithlu addysg.

Ymunwch ag un o’n gweithdai

Fel rhan o’r rhaglen, bydd Estyn yn cynnal dwy sesiwn 50 munud yn archwilio sut mae ein gwaith yn ychwanegu gwerth at y system addysg.

Estyn: ychwanegu gwerth at y system addysg

Sesiwn Saesneg

13:30–14:20 | Ystafell 1 I (i)

Estyn: ychwanegu gwerth at y system addysg

Sesiwn Gymraeg

15:00–15:50 | Ystafell 1 I (i)

Os ydych chi’n mynychu’r Sioe Addysg Genedlaethol, dewch i’n gweld ar stondin 97. P’un a ydych am ofyn cwestiwn, archwilio ein hadnoddau gwella neu rannu eich profiad o ymgysylltu ag Estyn, byddwn yn falch iawn o glywed gennych. Edrychwn ymlaen at eich gweld yng Nghaerdydd ar 2 Hydref.