Dweud eich dweud ar ddiogelu yn Rhondda Cynon Taf
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru, Estyn a HMICFRS yn cydweithio er mwyn edrych ar ba mor dda mae arferion diogelu yn gweithio yn Rhondda Cynon Taf.
Mae diogelu yn golygu cadw pobl yn ddiogel rhag niwed. Mae Adran 5 o Weithdrefnau Diogelu Cymru yn nodi’r hyn a ddylai ddigwydd os bydd rhywun yn mynegi pryder am ymarferydd neu unigolyn sydd mewn swydd o ymddiriedaeth. Diweddarwyd y gweithdrefnau hyn ym mis Gorffennaf 2026.
Rydym am glywed gan bobl o bob rhan o’r ardal. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un sydd â barn ar y trefniadau diogelu pan geir honiadau / pryderon ynghylch ymarferydd neu unigolyn sydd mewn swydd o ymddiriedaeth.
Mae yna arolwg byr y gallwch ei lenwi. Mae’n ddienw a bydd yn cymryd tua deg munud i’w gwblhau. https://ymateb.gov.wales/s/W8TAYG/
Gall plant a phobl ifanc hefyd rannu eu profiadau o ddiogelu mewn ysgolion.
Gall plant a phobl ifanc rannu eu barn drwy gwblhau un o’r arolygon hyn:
- Cwblhau’r arolwg Diogel ac yn Hapus yn yr Ysgol (Oedran 5–11): https://www.smartsurvey.co.uk/s/77VC2Q/
- Cwblhau’r arolwg ‘Diogelwch, Cymorth ac Ymddiriedaeth – Eich Profiad Chi’ (Oedran 11–16): https://www.smartsurvey.co.uk/s/YII807/
- Cwblhau’r arolwg hawdd ei ddeall: https://www.smartsurvey.co.uk/s/L1JT53/
Angen siarad â rhywun? Cysylltwch â Meic
Rydym yn gwybod y gall meddwl neu siarad am y pynciau hyn amlygu teimladau, meddyliau, atgofion a phrofiadau anodd. Os ydych yn 25 oed neu’n iau ac rydych am siarad â rhywun am hyn, neu gael help i gwblhau’r arolwg, gallwch gysylltu â Meic:
Rydym yn gwybod y gall meddwl neu siarad am y pynciau hyn amlygu teimladau, meddyliau, atgofion a phrofiadau anodd. Os ydych yn 25 oed neu’n iau ac rydych am siarad â rhywun am hyn, neu gael help i gwblhau’r arolwg, gallwch gysylltu â Meic:
- Ffôn a Neges WhatsApp: 080 880 23456
- Neges Destun: 07943 114 449
- Sgwrs Ar-lein: www.meic.cymru
Bydd unrhyw beth a gaiff ei rannu â Meic yn cael ei drin yn gyfrinachol ac yn ddienw yn unol â’i bolisïau a gweithdrefnau.