Colegau’n darparu cymorth da ar gyfer dysgwyr i’w helpu i wneud y gorau o’u haddysg
Canfu adroddiad Estyn, ‘Gwasanaethau cymorth i ddysgwyr mewn colegau addysg bellach ar gyfer dysgwyr 16-19 oed’, fod y rhan fwyaf o golegau’n rhoi arweiniad da i ddysgwyr a’u bod yn darparu ystod o gymorth effeithiol i helpu dysgwyr i fanteisio ar y cyfleoedd y mae eu haddysg a’r hyfforddiant yn eu rhoi iddynt.
Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd:
“Mae rhoi cymorth llawn i ddysgwyr wrth iddyn nhw wneud penderfyniadau ar adegau allweddol yn eu bywyd yn hynod bwysig. Dylai colegau ddarparu’r cyngor a’r arweiniad i gynnal diddordeb dysgwyr yn eu hastudiaethau a’u helpu i benderfynu ar y camau nesaf yn eu gyrfa wrth iddyn nhw orffen addysg amser llawn.”
Mae colegau’n rhoi cymorth i ddysgwyr trwy eu cyfnod mewn addysg mewn nifer o ffyrdd. Er enghraifft, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn monitro presenoldeb i nodi dysgwyr sydd mewn perygl o roi’r gorau i’w haddysg ac yn darparu cymorth i helpu i leihau nifer yr absenoldebau. Mae gan y rhan fwyaf o golegau staff sy’n defnyddio eu gwybodaeth dechnegol a galwedigaethol i helpu dysgwyr i wneud penderfyniadau am eu dilyniant y tu hwnt i addysg bellach a darparu arweiniad priodol. Cyflwynir sesiynau tiwtorial strwythuredig i helpu i ddatblygu medrau cynllunio gyrfa. Mae’r rhan fwyaf o golegau’n defnyddio’r sesiynau tiwtorial hyn hefyd i helpu dysgwyr i drefnu profiad gwaith ac ennill medrau ychwanegol a amlinellir yn Gyrfaoedd a’r byd gwaith: fframwaith i bobl ifanc 11 i 19 oed yng Nghymru (2008).
Mae gweithio mewn partneriaeth yn ffordd bwysig o gynorthwyo dysgwyr. Er enghraifft, mae Coleg y Cymoedd yn gweithio’n agos â Choleg Dewi Sant ac Ysgol Gatholig Rufeinig y Cardinal Newman. Mae hyn yn galluogi disgyblion Blwyddyn 12 o Ysgol y Cardinal Newman sy’n mynychu Coleg y Cymoedd i gynnal cysylltiadau ag addysg yn seiliedig ar ffydd tra byddant yn manteisio ar gyfleoedd dysgu yn y coleg.
Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion ar gyfer colegau addysg bellach, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Dylai colegau ddatblygu ffordd gyffredin o fesur cyflawniadau dysgwyr yn erbyn y fframwaith Gyrfaoedd a’r byd gwaith (2008). Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod pob dysgwr yn ymwybodol o’r dewisiadau cymorth sydd ar gael iddynt a bod colegau’n cael gwybodaeth amserol am gyflawniadau ac anghenion dysgwyr sy’n symud ymlaen i addysg bellach. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag ysgolion, Gyrfa Cymru ac awdurdodau lleol i ddatblygu system genedlaethol ar gyfer casglu data ar gyrchfannau gyrfa unigolion sy’n gadael y coleg.
Nodiadau i Olygyddion:
Ynglyn â’r adroddiad
Comisiynwyd adroddiad Estyn Gwasanaethau cymorth i ddysgwyr mewn colegau addysg bellach ar gyfer dysgwyr 16-19 oed gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae ar gael yn llawn yn http://www.estyn.llyw.cymru/adroddiadau-thematig
Mae’r canfyddiadau a’r argymhellion yn yr adroddiad hwn yn defnyddio ymweliadau â’r sefydliadau canlynol:
Coleg Penybont, Pen-y-bont ar Ogwr
Coleg Sir Gâr, Sir Gaerfyrddin
Coleg Ceredigion, Ceredigion
Coleg Gwent, Casnewydd
Grwp Llandrillo Menai, Gwynedd
Coleg Merthyr Tudful, Merthyr Tudful
Coleg Penfro, Sir Benfro
Coleg Catholig Dewi Sant, Caerdydd
Coleg Gwyr Abertawe, Abertawe
Coleg Cambria, Sir y Fflint
Coleg y Cymoedd, Rhondda Cynon Taf
Grwp NPTC, Castell-nedd Port Talbot