Erthyglau newyddion |

Arolygiadau Estyn ac ymweliadau eraill wedi'i hatal i helpu darparwyr i leihau pwysau-COVID-19

Share this page

Annwyl gydweithiwr,

Oherwydd y cyfnod cyfnewidiol a heriol sy’n wynebu ysgolion a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill o achos COVID-19, rwyf wedi penderfynu, yn dilyn trafodaethau â Llywodraeth Cymru, atal holl arolygiadau a gweithgareddau cysylltiedig eraill Estyn o heddiw, dydd Llun 16 Mawrth 2020.

Bydd yr ataliad yn parhau hyd nes bod y sefyllfa bresennol wedi mynd heibio neu wedi newid yn sylweddol er gwell. O'n trafodaethau ag Arolygiaeth Gofal Cymru, maent wedi cytuno y bydd yr ataliad yn cynnwys ein cyd-arolygiadau o leoliadau meithrin nas-cynhelir.

Rwyf wedi gwneud y penderfyniad hwn i ganiatáu i arweinwyr a staff ym mhob darparwr addysg a hyfforddiant, a'r sefydliadau hynny sy'n eu cefnogi, ganolbwyntio'n llawn ar les eu dysgwyr, eu staff a'u teuluoedd. Mae darparwyr yn debygol o weld cynnydd yn absenoldeb staff yn ystod yr amser hwn. Bydd y penderfyniad i atal gwaith arolygu yn helpu i gynnal lefelau staffio trwy sicrhau nad yw arolygwyr cymheiriaid ac arolygwyr eraill allan o'u sefydliadau ar yr adeg bwysig hon.

Bydd ein staff yn cael eu defnyddio i weithio ar ystod o weithgareddau i gefnogi darparwyr a system addysg Cymru. Byddwn yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i benderfynu ar y ffordd orau o wneud hyn. Efallai y bydd achosion lle hoffai darparwyr inni barhau â rhai agweddau ar ein gwaith ymgysylltu neu gefnogi gyda nhw, o bell o bosibl a thrwy ddefnyddio technoleg.

Byddwn yn parhau i adolygu'r sefyllfa sy'n newid a byddwn yn eich diweddaru wrth i'r sefyllfa ddatblygu.

Dymunaf yn dda ichi yn ystod yr amser anodd hwn a diolch i chi i gyd am eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad.

Meilyr Rowlands

Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru