Arbenigwyr addysg o bedwar ban byd yn ymgynnull yng Nghaerdydd ar gyfer Cynhadledd Deallusrwydd Artiffisial Estyn
Bydd Estyn yn cynnal gweithdy rhyngwladol yng Nghaerdydd yr wythnos hon, gan ddod ag arolygiaethau addysg o bob cwr o Ewrop a thu hwnt ynghyd i archwilio rôl deallusrwydd artiffisial (AI) mewn addysg.
Bydd Gweithdy SICI Cymru 2026, Llywio’r Daith Deallusrwydd Artiffisial, yn cael ei gynnal o 22 i 24 Ebrill ym Mae Caerdydd. Wedi’i drefnu mewn partneriaeth â Chynhadledd Ryngwladol Sefydlog yr Arolygiaethau (SICI), bydd y digwyddiad yn croesawu cynrychiolwyr o 25 o wledydd i rannu arbenigedd a chryfhau cydweithio rhyngwladol.
Bydd y gweithdy’n canolbwyntio ar ganlyniadau prosiect ar y cyd rhwng arolygiaethau yng Nghymru, Norwy a’r Alban, gan archwilio sut y gall AI gefnogi gwaith arolygu. Trwy gyfuniad o gyflwyniadau, sesiynau ymarferol a gweithdai cydweithredol, bydd cynrychiolwyr yn archwilio sut y gellir defnyddio technolegau sy’n dod i’r amlwg mewn modd cyfrifol ac effeithiol o fewn systemau addysg.
Cynhelir y brif gynhadledd yn Techniquest ym Mae Caerdydd, gan ddarparu lleoliad deinamig ar gyfer trafodaethau ar arloesedd technolegol. Bydd y brif araith yn cael ei thraddodi gan Dr Madiha Khan, ymchwilydd AI a gwyddonydd data, fydd yn archwilio’r cyfleoedd a’r heriau y mae AI yn cyflwyno i addysg.
Mae’r digwyddiad hefyd yn cynnig cyfle i arddangos Cymru a’i diwylliant. Bydd cynrychiolwyr yn cymryd rhan mewn taith dywys o amgylch Bae Caerdydd ac yn mynychu cinio gala yn y Gyfnewidfa Lo, gyda pherfformiadau gan bobl ifanc sy’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, gan ddathlu iaith a diwylliant Cymru.
Drwy gynnal y gweithdy rhyngwladol hwn, mae Estyn yn cyfrannu at sgyrsiau byd-eang am ddyfodol addysg ac arolygu. Mae’r digwyddiad yn adlewyrchu ymrwymiad Estyn i archwilio sut y gall AI wella eu gwaith, gwella effeithlonrwydd a chefnogi canlyniadau gwell i ddysgwyr yng Nghymru.