Erthyglau newyddion |

Addysg heblaw yn yr ysgol yn cynnig ail gyfle i ddisgyblion, ond dim amrywiaeth ddigon eang o brofiadau dysgu

Share this page

Mae disgyblion sy’n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol yn aml yn colli allan ar fanteision cwricwlwm eang a chymorth arbenigol – sy’n gallu cael effaith negyddol ar eu haddysg a’u rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol.

Mae adroddiad Estyn, Addysg heblaw yn yr ysgol, yn edrych ar addysg disgyblion o oedran ysgol gorfodol sy’n derbyn eu holl addysg, neu’r rhan fwyaf ohoni, y tu allan i’r ysgol.  Canfu arolygwyr fod presenoldeb, ymddygiad a chymhelliant disgyblion yn aml yn gwella, gyda chymorth profiadau galwedigaethol ysgogol a pherthnasoedd gwell disgyblion gyda’u cyfoedion a staff.  Fodd bynnag, mae gormod o amrywiad yn ansawdd y profiadau ac mae diffyg staff a chyfleusterau arbenigol yn golygu:

  • bod disgyblion yn gallu colli allan ar bynciau fel gwyddoniaeth

  • na fyddant efallai yn cael addysg amser llawn

  • bod cyfleoedd i barhau dysgu cyfrwng Cymraeg yn gyfyngedig

  • na fydd disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol o bosibl yn cael y cymorth arbenigol sydd ei angen arnynt

Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd, “Mae gan yr holl blant a phobl ifanc hawl i gael addysg eang, beth bynnag fo’r lleoliad.  Yn aml, mae bylchau sylweddol yn nysgu disgyblion sydd wedi cael eu gwahardd o’r ysgol, yn gwrthod mynd i’r ysgol, neu sydd ag ymddygiad heriol yn gysylltiedig ag anawsterau cymdeithasol neu emosiynol, mae eu hunan-barch yn isel, a’u dyheadau ar gyfer eu dyfodol yn gyfyngedig.

“Mae addysg y tu allan i’r ysgol prif ffrwd yn cynnig ail gyfle i’r disgyblion hyn lwyddo ac mae’r medrau a ddatblygant yn hanfodol wrth eu galluogi i elwa ar hyfforddiant pellach neu gyflogaeth.

Mae gan awdurdodau lleol rôl allweddol mewn trefnu addysg briodol heblaw yn yr ysgol ar gyfer disgyblion.  Yn gyffredinol, nid oes ganddynt systemau cadarn sy’n gwneud yn siŵr bod y disgyblion yn cael addysgu a chymorth o ansawdd da.

Mae’r adroddiad yn amlygu sawl enghraifft o addysg effeithiol heblaw yn yr ysgol.  Er enghraifft, mae prosiect ‘Cymell a Dysgu’ yn rhoi cyfle i ddisgyblion sydd â diddordeb mewn chwaraeon ddysgu a chael profiad gwaith mewn clwb chwaraeon proffesiynol.  Mewn ardal wledig, caiff disgyblion hyfforddiant galwedigaethol mewn crefftau coedwig ac maent yn ennill cymwysterau sy’n berthnasol i gyfleoedd cyflogaeth lleol.

Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion, gan gynnwys yr angen i gydweithio i sicrhau bod yr holl addysg heblaw yn yr ysgol yn cynnig ehangder ac ansawdd priodol o gyfleoedd cwricwlwm, cymwysterau a chymorth i ddisgyblion.