Arolygydd Ei Fawrhydi (AEF) - Estyn

Arolygydd Ei Fawrhydi (AEF)


Rydym yn chwilio am yr arweinwyr gorau a mwyaf disglair o bob cefndir i ymuno â ni i gyflawni rhagoriaeth i bob dysgwr yng Nghymru. Mae rôl Arolygydd Ei Fawrhydi (AEF) yn un gyffrous ac amrywiol sy’n rhoi golwg unigryw i chi ar addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Daw ein AEF o ystod amrywiol o gefndiroedd arwain ym myd addysg a hyfforddiant. Pa lwybr bynnag y mae’ch gyrfa wedi’i ddilyn hyd yn hyn, bydd gennych hanes cryf o wella a phrofiad o arloesi ar lefel strategol. Byddwch hefyd yn deall y dirwedd addysg a hyfforddiant ehangach a rôl arolygu fel grym ar gyfer gwella.

Er enghraifft, efallai y byddwch:

  • yn uwch arweinydd mewn ysgol uwchradd neu’n uwch arweinydd uwchradd mewn ysgol pob oed
  • yn uwch arweinydd mewn ysgol gynradd neu’n uwch arweinydd cynradd mewn ysgol pob oed
  • yn uwch arweinydd sydd â phrofiad o arwain darpariaeth ADY arbenigol, fel ysgol arbennig neu UCD
  • yn gyfarwyddwr/cyfarwyddwr cynorthwyol mewn gwasanaeth gwella ysgolion neu’n bartner gwella ysgolion
  • yn rheolwr ansawdd neu’n arweinydd mewn darparwr prentisiaethau dysgu yn y gwaith
  • yn is-bennaeth neu’n gyfarwyddwr dysgu mewn coleg addysg bellach

Ar gyfer y recriwtio hwn, rydym yn chwilio am bobl sydd â chefndir mewn nifer o feysydd, y mae lefelau eu gallu yn y Gymraeg yn amrywiol. Mae hyn yn cynnwys:

  • Addysg Gynradd, gyda phrofiad o’r blynyddoedd cynnar – mae medrau Cymraeg yn hanfodol
  • Addysg Gynradd, gyda phrofiad o’r blynyddoedd cynnar – mae medrau Cymraeg yn ddymunol
  • Addysg Uwchradd – mae medrau Cymraeg yn hanfodol
  • Addysg Uwchradd – mae medrau Cymraeg yn ddymunol
  • Addysg ôl-16 – mae medrau Cymraeg yn hanfodol
  • Addysg ôl-16 – mae medrau Cymraeg yn ddymunol
  • Arbennig / UCD – mae medrau Cymraeg yn ddymunol
  • Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol fel arwain cymorth ar gyfer gwella ysgolion, cynhwysiant neu anghenion dysgu ychwanegol – mae medrau Cymraeg yn ddymunol

Mae statws athro cymwysedig (SAC) yn ofyniad hanfodol ar gyfer pob un o’r swyddi hyn, heblaw’r swyddi ôl 16.

Cyflog: £76,752 – £89,791 y flwyddyn (codiad cyflog yn yr arfaeth).

Hyd: Parhaol

Diogelu – Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer rôl AEF. Trwy’r rôl, byddwch yn dod i gysylltiad â phlant neu oedolion bregus ac yn gweld deunydd neu wybodaeth sensitif am blant ac oedolion bregus.

Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: 10yb 6 Ionawr 2027