Arolygydd Cymheiriaid – Ysgolion arbennig agynhelir a UCDau
Mae fod yn Arolygydd Cymheiriaid yn cyfle gwych i ddatblygu eich medrau proffesiynol a chyfrannu at wella yn eich sector.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n uwch arweinwyr ar hyn o bryd yn y canlynol:
• Ysgolion arbennig a gynhelir.
• UCDau.
Mae Arolygwyr Cymheiriaid yn rhan allweddol o’n timau arolygu. Os ydych chi’n cymhwyso fel Arolygydd Cymheiriaid, byddwch:
• yn defnyddio eich gwybodaeth a medrau yn ystod teithiau dysgu ac wrth arsylwi gwersi, siarad â dysgwyr, a chraffu ar enghreifftiau o’u gwaith;
• yn cyfrannu at drafodaethau, fel rhan o’r tîm arolygu, i lunio gwerthusiadau tîm cytûn;
• yn defnyddio eich arsylwadau i ddrafftio rhannau o’r adroddiad arolygu.
Fel Arolygydd Cymheiriaid, byddwch yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i arolygiadau Estyn. Byddwch yn cael cyfle gwych i weld arfer effeithiol ar waith a mynd â’r enghreifftiau hyn yn ôl i’ch lleoliad chi i gefnogi gwelliant.
Rydym yn cynnig hyfforddiant ac, os ydych chi’n llwyddiannus, byddwn yn eich ychwanegu at ein cofrestr o Arolygwyr Cymheiriaid.
Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan y rhai sydd o gefndiroedd amrywiol a’r rhai sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth a’r ddogfen arweiniad i gael mwy o wybodaeth am y rôl a manylion am sut i wneud cais.
Dyddiad cau: 5yh ar 28 Medi 2026
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn cadarnhad erbyn yr wythnos sy’n dechrau 5 Hydref 2026.