Arolygydd Cymheiriad - Colegau Arbennigol Annibynnol - Estyn

Arolygydd Cymheiriad – Colegau Arbennigol Annibynnol


Mae bod yn arolygydd cymheiriaid yn gyfle dysgu proffesiynol unigryw i weld arfer effeithiol lle mae’n digwydd bob dydd a mynd â’r enghreifftiau hyn yn ôl i’ch darpariaeth chi i gefnogi gwelliant. 

Rydym yn recriwtio ymgeiswyr ar hyn o bryd i ddod yn Arolygwyr Cymheiriaid sy’n uwch arweinwyr mewn: 

  • Colegau Arbenigol Annibynnol

Mae Arolygwyr Cymheiriaid yn rhan allweddol o’n timau arolygu. Os byddwch chi’n cymhwyso i fod yn Arolygydd Cymheiriaid, byddwch:  

  • yn defnyddio eich gwybodaeth a medrau i arsylwi sesiynau, siarad gyda dysgwyr, arweinwyr a staff, a chraffu ar samplau o waith disgyblion.  
  • yn cyfrannu at drafodaethau, gan helpu’r tîm arolygu i lunio gwerthusiadau cytûn.  
  • yn defnyddio eich arsylwadau i ddrafftio rhannau byr o’r adroddiad arolygu fel rhan o weithgarwch y tîm arolygu. 

Rhaid i chi fod yn gweithio mewn coleg arbenigol annibynnol ar hyn o bryd i fod yn gymwys ar gyfer y rôl hon.  

Lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth a’r ddogfen arweiniad i gael mwy o wybodaeth am y rôl a manylion am sut i wneud cais.

Dyddiad cau: 17:00, 12 Tachwedd 2026 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn cadarnhad erbyn yr wythnos sy’n dechrau 23 Tachwedd 2026.