Arolygydd Cymheiriad – Colegau Arbennigol Annibynnol
Mae bod yn arolygydd cymheiriaid yn gyfle dysgu proffesiynol unigryw i weld arfer effeithiol lle mae’n digwydd bob dydd a mynd â’r enghreifftiau hyn yn ôl i’ch darpariaeth chi i gefnogi gwelliant.
Rydym yn recriwtio ymgeiswyr ar hyn o bryd i ddod yn Arolygwyr Cymheiriaid sy’n uwch arweinwyr mewn:
- Colegau Arbenigol Annibynnol
Mae Arolygwyr Cymheiriaid yn rhan allweddol o’n timau arolygu. Os byddwch chi’n cymhwyso i fod yn Arolygydd Cymheiriaid, byddwch:
- yn defnyddio eich gwybodaeth a medrau i arsylwi sesiynau, siarad gyda dysgwyr, arweinwyr a staff, a chraffu ar samplau o waith disgyblion.
- yn cyfrannu at drafodaethau, gan helpu’r tîm arolygu i lunio gwerthusiadau cytûn.
- yn defnyddio eich arsylwadau i ddrafftio rhannau byr o’r adroddiad arolygu fel rhan o weithgarwch y tîm arolygu.
Rhaid i chi fod yn gweithio mewn coleg arbenigol annibynnol ar hyn o bryd i fod yn gymwys ar gyfer y rôl hon.
Lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth a’r ddogfen arweiniad i gael mwy o wybodaeth am y rôl a manylion am sut i wneud cais.
Dyddiad cau: 17:00, 13 Tachwedd 2026
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn cadarnhad erbyn yr wythnos sy’n dechrau 23 Tachwedd 2026.