Rho dy farn i ni am dy goleg. Meddylia am dy brofiadau dy hun ac nid am brofiadau dy ffrindiau. Darllena bob brawddeg a rhoi tic yn y blwch sy’n cyfateb i dy farn. Does dim atebion cywir nac anghywir. I rai cwestiynau, byddi di’n gallu esbonio pam y dewisaist ti’r ateb hwnnw, os hoffet ti wneud hynny. Ateba’n onest.
Mae dy farn yn bwysig i ni. Byddwn ni’n darllen dy atebion ac yn eu defnyddio i ddysgu rhagor am y coleg. Hefyd, gallem ni ddefnyddio’r holiaduron hyn i’n helpu i ddeall beth yw barn disgyblion am golegau ar draws Cymru.
Mae’r holiadur yn ddienw. Dydyn ni ddim yn gofyn am dy enw. Mae hyn yn golygu bod dy atebion yn gyfrinachol.
Bydd arolygwyr Estyn:
- yn darllen dy atebion
- byth yn dweud wrth unrhyw un yn dy ysgol nac unrhyw un arall y tu allan i Estyn beth rwyt ti wedi’i ddweud
Yr unig amser pan y gallem ni rannu gwybodaeth gyda phobl eraill yw os oes gennym ni bryderon am ddiogelwch disgyblion.
Rydym ni’n cadw dy atebion yn ddiogel ar systemau cyfrifiadurol Estyn.