Trosolwg

Mae’r ymadrodd dysgu yn y gwaith yn nodi rhaglenni:

  • sy’n cael eu cyflwyno yn y gweithle
  • sydd fel arfer yn cynnwys elfen i ffwrdd o’r gwaith pan fydd y dysgwr yn mynd i ganolfan hyfforddi neu goleg ar gyfer rhannau theori’r rhaglen
  • pan fydd dysgwyr yn cyflawni cyfres o gymwysterau cydnabyddedig

Mathau o raglenni hyfforddi dysgu yn y gwaith

Prentisiaethau

Caiff prentisiaid eu cyflogi ac maent yn gweithio mewn amrywiaeth eang o swyddi. Mae prentisiaethau ar gael ar lefel 2, lefel 3 ac ar lefel prentisiaeth uwch (lefel 4 ac uwch).

Mae prentisiaid yn dechrau eu hyfforddiant ar lefelau gwahanol yn dibynnu ar y swydd, eu profiad blaenorol ac anghenion cyflogwyr. Yn ogystal â datblygu eu medrau cysylltiedig â gwaith yn y gweithle, mae prentisiaid yn gweithio tuag at gyflawni cyfres o gymwysterau cydnabyddedig. 

Mae prentisiaethau ar agor i unrhyw un dros 16 oed, gan gynnwys pobl ag anabledd, cyflwr iechyd neu anhawster dysgu. Nid oes uchafswm oedran. Oherwydd bod prentisiaid yn cael eu cyflogi gan y sefydliad y maent yn gweithio iddo, rhaid iddynt wneud cais pan fydd swyddi’n cael eu hysbysebu, fel unrhyw swydd arall. Bydd y cyflogwr sy’n hysbysebu’r brentisiaeth yn datgan pa gymwysterau, medrau a phrofiad sydd eu hangen arnynt. 

O Awst 2021 ymlaen, mae Llywodraeth Cymru wedi contractio deg prif ddarparwr hyfforddiant i gyflwyno prentisiaethau ledled Cymru. Mae’r prif ddarparwyr hyn yn gweithio gyda llawer o isgontractwyr i gyflwyno rhaglenni prentisiaeth.

Ymweliadau monitro dysgu yn y gwaith, Medi 2021 hyd at fis Gorffennaf 2022

Ym mlwyddyn gyntaf y cyfnod contractio newydd ar gyfer darparwyr prentisiaethau dysgu yn y gwaith, cynhaliom ymweliadau monitro â phob un o’r prif ddarparwyr a’u hisgontractwyr.

Canolbwyntiom ar y perthnasoedd strategol rhwng y prif ddarparwr a’i isgontractwyr ac aelodau consortia, yn ogystal ag effaith addysgu, hyfforddiant ac asesu ar ansawdd dysgu a chynnydd dysgwyr.

Yn ystod yr ymweliad monitro, siaradodd arolygwyr â dysgwyr a staff ar bob lefel. Ymwelodd arolygwyr â sampl o isgontractwyr, cyfarfod ag arweinwyr a siarad â dysgwyr. Hefyd, adolygont y rheolaeth ar y rhaglen brentisiaeth a sicrhau ei hansawdd.

Cyhoeddom lythyron i ddarparwyr yn dilyn yr ymweliad. Rhoddodd y llythyron hyn wybodaeth am y trefniadau strategol gydag isgontractwyr ac aelodau consortia, ystod y ddarpariaeth prentisiaethau ac amlinellont rai o brofiadau diweddar y dysgwyr.

Hefyd, cyhoeddom adroddiad cenedlaethol yn seiliedig ar ganfyddiadau ein hymweliad:

Wele wybodaeth a llythyron darparwyr Prentisiaethau dysgu yn y gwaith:

Associated Community Training Ltd

Coleg Sir Benfro

Cwmni Hyfforddiant Cambrian

Coleg Cambria

Coleg Llandrillo

Educ8 Training Group Ltd

Coleg Gŵyr Abertawe

ITEC Training Solutions Ltd

Cynghrair Sgiliau Ansawdd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro

Coleg Castell-nedd Port Talbot (Academi Sgiliau Cymru)

Rhaglen Cyflogadwyedd – Twf Swyddi Cymru +

Mae rhaglen ieuenctid Twf Swyddi Cymru + yn rhaglen hyfforddiant, datblygu a chymorth cyflogadwyedd unigol i bobl ifanc 16 i 18 oed sy’n byw yng Nghymru ac yr asesir nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant amser llawn (NEET). Ei nod yw rhoi’r medrau, y cymwysterau a’r profiad i bobl ifanc gael swydd neu hyfforddiant pellach. Mae’n rhaglen hyblyg sydd wedi’i chynllunio o gwmpas y person ifanc. Amcanion allweddol y rhaglen yw lleihau nifer y bobl ifanc NEET a chynorthwyo pobl ifanc i wneud y mwyaf o’u potensial.

Mae Twf Swyddi Cymru + yn rhaglen Llywodraeth Cymru sydd wedi’i chynnwys yn y Gwarant i Bobl Ifanc (cynnig cymorth wedi’i warantu i bobl ifanc o dan 25 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu fod yn hunangyflogedig).

O Ebrill 2022 i Fawrth 2026, mae Llywodraeth Cymru wedi contractio rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant i gyflwyno’r rhaglen hon ar draws pedair ardal ranbarthol: y gogledd, y de-orllewin a’r Canolbarth, canol y de a de-ddwyrain Cymru. Mae pob rhanbarth yn cynnwys prif ddarparwyr contract yn gweithio gydag isgontractwyr partner i ddarparu rhaglen integredig o ddysgu a/neu ddatblygu.

Mae cynghorwyr Cymru’n Gweithio yn atgyfeirio pobl ifanc i ddarparwyr y rhaglen ac yn darparu asesiad cychwynnol o’r cymorth sydd ei angen, gan nodi canghennau priodol y rhaglen: 

Ymgysylltu – Mae’r gangen hon yn helpu pobl ifanc i benderfynu pa lwybr gyrfa yr hoffent ei ddilyn.

Datblygiad – Mae’r gangen hon yn cynnig cymorth neu raglenni sy’n cynnig cymwysterau i helpu’r person ifanc i symud ymlaen i astudiaethau pellach, hyfforddiant neu waith.

Cyflogaeth – Mae’r gangen hon yn darparu cyfleoedd gwaith â chymhorthdal i bobl ifanc.

Bydd pobl ifanc ar y rhaglen, sy’n cael eu galw’n gyfranogwyr, yn cael cynllun dysgu unigol (CDU). Mae’r cynllun hwn yn cael ei ddatblygu a’i gyflwyno gan ddarparwyr a fydd yn cynorthwyo’r person ifanc i ennill y medrau, y cymwysterau a’r profiad i symud ymlaen i ddysgu ar lefel uwch, cyflogaeth (gan gynnwys hunangyflogaeth) neu brentisiaeth.

Ymweliadau monitro rhanbarthol Twf Swyddi Cymru + Hydref 2022 i Orffennaf 2023

Ym mlwyddyn gyntaf cyfnod contractio newydd rhaglen Twf Swyddi Cymru +, byddwn yn cynnal ymweliadau monitro â phob un o’r pedwar rhanbarth ac yn ymweld â phrif ddarparwyr y contract a’u partneriaid.

Yn ystod yr ymweliad monitro, bydd arolygwyr yn arsylwi cyfranogwyr mewn sesiynau, yn siarad â nhw ac yn adolygu’u cynlluniau dysgu unigol a’u dogfennau allweddol. Bydd arolygwyr yn arsylwi tiwtoriaid ac yn cyfarfod ag arweinwyr ar draws y sefydliadau sy’n cyflwyno’r rhaglen ym mhob rhanbarth.

Byddwn yn cyfarfod â staff allweddol o Gymru’n Gweithio a chydlynwyr partneriaethau addysg eraill i adolygu’r broses atgyfeirio.  Hefyd, bydd arolygwyr yn adolygu ansawdd a phriodoldeb y safle a’r adnoddau ar gyfer y rhaglen.

Bydd arolygwyr yn adrodd canfyddiadau allweddol yr adborth yn ôl i’r darparwyr yn y rhanbarth ar ddiwrnod olaf yr ymweliad a byddwn yn cyhoeddi adroddiadau rhanbarthol yn dilyn yr ymweliadau.

Rydym wedi cyhoeddi adroddiad cenedlaethol yn seiliedig ar ganfyddiadau ein hymweliadau.

Rhanbarth Gogledd Cymru

Rhanbarth Canol De Cymru

Rhanbarth De-ddwyrain Cymru

Rhanbarth De-orllewin a Chanolbarth Cymru

Cyhoeddiadau ôl-16 Estyn

Ein gweledigaeth yw gwella ansawdd addysg a hyfforddiant a chanlyniadau i holl ddysgwyr Cymru.

Ein cenhadaeth yw cefnogi darparwyr addysg a hyfforddiant i ddatblygu diwylliant hunanwella a dysgu trwy ein cyngor, ein harolygiad a meithrin gallu.

Darllenwch fwy am ein gwaith yn y sector Ôl-16

Rhan o Y broses arolygu