Lleoliadau nas cynhelir: Arolygiadau ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn
Pan ailddechreuodd Estyn ac AGC gynnal arolygiadau ar y cyd ym mis Ionawr 2021, fe wnaethom atal defnydd o raddau crynodol cyffredinol dros dro yn dilyn y pandemig.
O 27 Chwefror 2023, byddwn yn ailgyflwyno cyhoeddi graddau crynodol cyffredinol ar gyfer ein harolygiadau ar y cyd. Byddwn yn parhau i ddefnyddio ein gweithdrefnau dilynol, a bydd AGC yn parhau i ddefnyddio eu polisi sicrhau gwelliant a gorfodi yn ôl yr angen.