A yw arolygwyr yn disgwyl gweld llythrennedd, rhifedd a TGCh yn cael eu haddysgu ym mhob gwers?

Pan fydd arolygwyr yn arsylwi gwersi yn ystod arolygiadau, nid oes blychau ticio ganddynt i’w llenwi ar gyfer llythrennedd, rhifedd a TGCh. Dylai athrawon fanteisio ar y cyfleoedd sy’n digwydd yn naturiol yn y cwricwlwm i atgyfnerthu dysgu mewn llythrennedd, rhifedd a TGCh. Fodd bynnag, ni ddylai hyn olygu bod yn rhaid i lythrennedd, rhifedd a TGCh fod yn rhan o bob gwers a addysgir yn ystod y diwrnod ysgol.