Ydy e'n anghyfreithlon i ofyn i gyflogai gael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd os nad yw’n angenrheidiol mewn gwirionedd?

Ydy, o dan Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974, nid yw’n ofynnol i rywun sydd â hanes troseddol ddatgelu unrhyw euogfarnau sydd wedi darfod oni bai bod y swydd y maent yn gwneud cais amdani, neu’n ei gwneud ar hyn o bryd, wedi’i rhestru fel eithriad o dan y Ddeddf.

Byddai cyflwyno gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer swyddi anaddas yn cael ei ystyried yn anghyfreithlon o dan delerau Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974. O dan Ran V Deddf yr Heddlu 1997, rhaid i gais am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gyd-fynd â datganiad gan yr unigolyn cofrestredig bod angen y dystysgrif ar gyfer gofyn cwestiwn eithriedig.

Os yw unigolyn yn gofyn am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn fwriadol ar gyfer swydd nad yw wedi’i chynnwys yng Ngorchymyn Eithriadau 1975 Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (DAT), byddai’n torri Rhan V, adran 123 Deddf yr Heddlu. Oherwydd, trwy wneud hyn, mae’n cyflawni trosedd trwy wneud datganiad ffug yn fwriadol ar gyfer cael neu alluogi rhywun arall i gael tystysgrif o dan y rhan hon.

Er bod y gofyniad i ofyn am wiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi cael ei ddileu ar gyfer gweithgarwch rheoledig, mae’r hawl i ofyn am wiriad yn parhau. Felly, mae awdurdod lleol yn rhydd i fynnu na chaiff unrhyw un ymgymryd â gweithgarwch rheoledig oni bai bod ef neu hi wedi cael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, hyd yn oed gwirfoddolwyr sy’n cael eu goruchwylio.

Yr hyn sy’n orfodol, fodd bynnag, yw’r gofyniad i gynnal gwiriad gweithgarwch rheoledig manylach ar gyfer y rhai sy’n ymgymryd â gweithgarwch rheoledig, ond ni ellir gwneud gwiriad gweithgarwch rheoledig manylach ar gyfer rhywun nad yw’n ymgymryd â gweithgarwch rheoleieddiedig.

Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: cofnodion GDG - canllawiau cymhwysedd