Pa mor aml y mae Estyn yn arolygu?

Ar hyn o bryd, rydym ni’n arolygu darparwyr o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod wyth mlynedd, er nad yw dyddiad eu harolygiad nesaf yn gysylltiedig â dyddiad eu harolygiad blaenorol. Fodd bynnag, fe wnaethom atal ein gweithgarwch arolygu yn ystod y pandemig yn 2020 a 2021.

Os byddwn ni’n gweld bod angen mwy o gymorth ar y darparwr addysg neu hyfforddiant i wella’r addysg neu’r hyfforddiant y mae’n eu darparu, rydym yn ymweld yn fwy rheolaidd i’w cefnogi, hyd nes byddwn ni’n hapus eu bod yn rhoi’r cymorth sydd ei angen arnynt i’w dysgwyr. Mae gennym ni’r pŵer hefyd i ymweld yn ddirybudd ag unrhyw ddarparwr addysg a hyfforddiant yng Nghymru, os bydd gennym ni bryderon.