A oes rhaid i athrawon ddarparu cynllun gwers ysgrifenedig?

Nid yw’n ofynnol i athrawon lunio cynllun gwers i’w roi i’r arolygydd sy’n ymweld â’r wers. Fodd bynnag, bydd arolygwyr yn disgwyl gweld tystiolaeth o gynllunio hirdymor ar gyfer y cwricwlwm  sy’n sicrhau bod gweithgareddau’n bodloni anghenion pob un o’r dysgwyr ac yn eu galluogi i wneud cynnydd digonol. Ni fydd yr arolygydd yn disgwyl cael cynllun gwers ond, os bydd athro’n dymuno rhannu cynllun gwers gydag arolygydd, yna bydd yr arolygydd yn ei ystyried ochr yn ochr â’r dystiolaeth o’r wers ei hun.