A oes gan arolygwyr ddulliau dewisol ac a ydynt yn disgwyl i athrawon ddilyn y rhain?

Nid oes gennym ni restr wirio ar gyfer arferion penodol na methodoleg ddewisol. Mae ffocws sylw arolygwyr ar gynnydd a chyflawniad dysgwyr yn bennaf ac effaith strategaethau addysgu ar y rhain. Gall cynnydd a chyflawniad da ddeillio o amrywiaeth o arferion a methodoleg. Bydd arolygwyr yn disgwyl i athrawon olrhain cynnydd disgyblion yn effeithiol ond nid oes ganddynt systemau hoff na dewisol ar gyfer gwneud hyn.