A fydd ysgolion yn cael eu barnu ar ymweliad / galwad ffôn ymgysylltu?

Nid arolygiad yw’r ymweliad neu’r alwad. Ni fydd unrhyw farnau nac adroddiad ysgrifenedig. Nod yr ymweliad neu’r alwad yw gweld sut mae ysgolion yn gweithio tuag at weithredu’r Cwricwlwm i Gymru. Hefyd, byddwn yn cynnal sgyrsiau gyda chydlynydd anghenion dysgu ychwanegol yr ysgol am ei waith cynnar ar y gofynion newydd ynghylch anghenion dysgu ychwanegol. Ein nod yw i’r ymweliadau fod yn gefnogol ac yn brofiad dysgu cadarnhaol i ni ac i’r ysgol / UCD.