A fydd arolygwyr yn arsylwi gwersi gan athrawon llanw yn ystod yr arolygiad?

Gall arolygwyr arsylwi gwersi/sesiynau sy’n cael eu haddysgu gan athro llanw/athrawes lanw neu drefniadau llanw eraill. Dylai’r ysgol roi gwybod i’r arolygydd cofnodol am unrhyw staff llanw sydd yn yr ysgol yn ystod yr arolygiad. Bydd arolygwyr yn deall y ffyrdd y gallai hyn effeithio ar agweddau ar y wers.