Rydym ni'n arolygu ansawdd a safonau mewn darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
Rydym ni'n gyfrifol am arolygu:
- ysgolion a lleoliadau meithrin a gynhelir gan, neu sy’n cael eu hariannu gan awdurdodau lleol
- ysgolion cynradd
- ysgolion uwchradd
- ysgolion pob oed
- ysgolion arbennig
- unedau cyfeirio disgyblion
- ysgolion annibynnol
- addysg bellach
- colegau arbenigol annibynnol
- dysgu oedolion yn y gymuned
- gwasanaethau addysg llywodraeth lleol
- consortia addysg rhanbarthol
- addysg a hyfforddiant athrawon
- Cymraeg i oedolion
- dysgu yn y gwaith
- dysgu yn y sector cyfiawnder
Rydym hefyd:
- yn rhoi cyngor ar ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac eraill
- yn cyhoeddi achosion o arfer dda yn seiliedig ar dystiolaeth arolygu