Mae ‘recriwtio diogel’ yn golygu meddwl am, a chynnwys, materion yn ymwneud ag amddiffyn a diogelu plant a hyrwyddo lles plant ym mhob cam o’r broses recriwtio.
Mae’n dechrau gyda’r broses o gynllunio’r ymarfer recriwtio, ac yn sicrhau bod yr hysbyseb swydd yn gwneud ymrwymiad y sefydliad i ddiogelu a hyrwyddo lles plant yn glir.
Mae’n gofyn am broses gyson a thrylwyr o graffu ar ymgeiswyr trwy:
- wirio hunaniaeth ac unrhyw gymwysterau academaidd neu alwedigaethol
- cael geirdaon proffesiynol a chymeriad
- gwirio hanes cyflogaeth flaenorol
- sicrhau bod gan yr ymgeisydd yr iechyd a’r gallu corfforol ar gyfer y swydd
- cynnal cyfweliad wyneb yn wyneb
- cynnal unrhyw wiriadau archwilio a gwahardd, gan gynnwys gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a gwiriad gweithgarwch rheoledig manylach
I gael mwy o wybodaeth, gweler:
Diogelu Plant a Recriwtio mwy Diogel mewn Addysg (arweiniad sy’n canolbwyntio ar Gymru)
a
Canllaw i'r gyfraith i lywodraethwyr ysgolion