Beth fydd canlyniad ymweliadau ymgysylltu ag ysgolion?

Ni fyddwn yn cyhoeddi adroddiadau unigol nac yn rhoi adborth ysgrifenedig i ysgolion ac UCDau ar eu cryfderau a’u blaenoriaethau ar gyfer gwella fel rhan o’r ymweliad ymgysylltu. Yn ystod yr ymweliad, bydd trafodaethau proffesiynol arolygwyr â staff yr ysgol yn ein helpu i greu darlun o sut mae’r ysgol yn datblygu ei gwaith ac yn ymateb i flaenoriaethau cenedlaethol. Bydd y trafodaethau yn helpu ysgolion ac UCDau i ddatblygu ymhellach. Bydd ein myfyrdodau o’r ymweliadau ymgysylltu yn llywio ein hadroddiad ar draws y sector, a bydd yn cofnodi’r negeseuon cyffredinol o’n hymweliadau ymgysylltu.