Er bod cefnogaeth ar gyfer sefydlu ysgolion pob oed, nid oes canllawiau cenedlaethol ar gael i awdurdodau lleol ac arweinwyr ysgolion. Felly, mae gan awdurdodau lleol eu cynlluniau amrywiol eu hunain i weddu i’w hamgylchiadau unigryw. Mae’r rhain bron bob amser yn rhan o gynlluniau trefniadaeth ysgolion ehangach yr awdurdod hwnnw. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru fel arfer ar wahân ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, sy’n ei gwneud yn anodd i ysgolion pob oed ystyried a llywio er mwyn sefydlu eu datganiadau sefyllfa eu hunain. O ganlyniad, ni chaiff y sector ysgolion pob oed ei gydnabod yn sector ar wahân yn ddigon da ar hyn o bryd.
Mae’r rhwydwaith cenedlaethol o ysgolion pob oed yn dod ag ymdeimlad gwerth chweil o berthyn i sector ar wahân sy’n dod i’r amlwg. Oherwydd diffyg canllawiau cenedlaethol, mae’r grŵp hwn wedi darparu cymorth i’w gilydd, wedi brocera grantiau o ffynonellau allanol, ac wedi gweithio i amlygu’r anawsterau ac arfer orau.
Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn rhagweld y bydd manteision ysgol bob oed yn gorbwyso’r anfanteision. Caiff y manteision hyn eu hesbonio’n dda fel arfer mewn dogfennau ymgynghori, ac maent yn cynnwys manteision i les disgyblion, profiadau dysgu gwell, pontio esmwyth, ansawdd gwell yr amgylchedd dysgu, ac yn aml, cadw darpariaeth cyfrwng Cymraeg lwyddiannus.
Dros gyfnod, mae awdurdodau lleol wedi dysgu o brofiadau ei gilydd, yn ogystal â defnyddio’r ymchwil ar fodelau pob oed llwyddiannus. O ganlyniad, mae’r ymgynghoriadau diweddaraf yn llawer craffach o ran manteision sefydlu ysgol bob oed, ac yn osgoi llawer o’r anawsterau a brofwyd gan y rhai a fabwysiadodd y model pob oed yn gynnar.