Ysgolion pob oed yng Nghymru - Adroddiad ar heriau a llwyddiannau sefydlu ysgolion pob oed

Share document

Share this

Atodiad 6: Cyd-destun pellach ar gyfer ysgolion sydd wedi eu cynnwys mewn cameos

Share document

Share this

Page Content

Ysgol 3-18 Idris Davies  

Mae’r ysgol yn gwasanaethu cymunedau Rhymni, Abertyswg a Phontlotyn. Mae tua 32% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim, sydd uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae gan ryw 28% o ddisgyblion anghenion addysgol arbennig. Penodwyd y pennaeth presennol ym mis Hydref 2017.

Ysgol Caer Elen

Mae’r ysgol yn gwasanaethu cymunedau Hwlffordd a’r ardal. Mae 8% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim, sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol. Daw bron i 93% o ddisgyblion o gartrefi di-Gymraeg. Mae gan 16% o ddisgyblion anghenion addysgol arbennig. Penodwyd y pennaeth presennol ym mis Chwefror 2021. 

Ysgol Llanhari

Mae tua 6% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim, sydd gryn dipyn yn is na’r cyfartaleddau cenedlaethol ar gyfer ysgolion uwchradd a chynradd. Mae 16%  o ddisgyblion ar gofrestr anghenion dysgu ychwanegol yr ysgol, sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae gan ychydig iawn o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig. Penodwyd y pennaeth ym mis Medi 2014.

Ysgol Gymunedol Tonyrefail

Agorwyd yr ysgol ym mis Medi 2018. Mae tua 25% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim, sydd uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae gan ryw 2% o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig. Penodwyd y pennaeth 18 mis cyn i’r ysgol agor.

Ysgol Nantgwyn

Agorwyd yr ysgol ym mis Medi 2018. Mae tua 33% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim. Mae gan ryw 1% o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig. Penodwyd y pennaeth 18 mis cyn i’r ysgol agor.

Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg

Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig gwyn, ac mae 7% yn gymwys am brydau ysgol am ddim, sy’n llawer is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Daw 39% o ddisgyblion o gartrefi Cymraeg eu hiaith, ac mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn siarad Cymraeg yn rhugl. Mae gan 11% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, ac mae’r ganran sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig islaw 1%. Mae’r ddau ffigur islaw’r cyfartaledd cenedlaethol. Penodwyd y pennaeth ym mis Ionawr 2021. Mae’r pennaeth presennol wedi bod yn ei swydd er mis Ionawr 2021.

Ysgol Godre’r Berwyn

Mae tua 9% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim, sy’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae gan 1% o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig. Agorwyd yr ysgol ym mis Medi 2019 ar ôl uno Ysgol y Berwyn, Ysgol Bro Tegid ac Ysgol Beuno Sant. Penodwyd y pennaeth ryw 12 mis cyn i’r ysgol agor.

Ysgol Henry Richard

Mae’r awdurdod lleol wedi adeiladu is-adran gynradd newydd, ac wedi adnewyddu’r adran uwchradd. Mae un corff llywodraethol wedi bod yn ei le ers sefydlu’r ysgol. Mae tua 13% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim. Agorwyd yr ysgol fel ysgol bob oed yn 2014, ac ar ôl cyfnod fel pennaeth dros dro, penodwyd y pennaeth i’r swydd ym mis Medi 2017.

Share document

Share this