Mae ymchwil i ysgolion pob oed yn gyfyngedig, yn bennaf o ganlyniad i niferoedd cymharol isel yr ysgolion pob oed yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill. Mae ymchwil a gyhoeddwyd yn ystod y 20 mlynedd ddiwethaf yn canolbwyntio’n bennaf ar botensial ysgolion pob oed. Mae hyn yn cynnwys eu potensial i wella addysgeg a gofal, manteision ar gyfer datblygu dysgu, a heriau posibl ar gyfer arweinyddiaeth.
Fe wnaeth llawer o awdurdodau lleol elwa ar Raglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif (Llywodraeth Cymru, 2019) i sefydlu ysgolion pob oed. Darparodd hyn fuddsoddiad seilwaith mawr mewn ysgolion a cholegau. O ganlyniad, mae llawer o ysgolion pob oed wedi eu lleoli naill ai mewn adeiladau newydd sbon neu safleoedd wedi’u hadnewyddu a safleoedd estynedig.
Yn 2018, mae’r papur ymchwil diweddaraf gan Reynolds et al. (2018) yn archwilio effeithiau model pob oed yn rhyngwladol a sut gallai gymharu â model Cymru. Mae’r adroddiad wedi’i seilio ar ymweliadau â chwe ysgol bob oed yn ne, canolbarth a gogledd Cymru, a chyfweliadau lled-strwythuredig ag arweinwyr, staff addysgu a disgyblion. Mae’n cynnwys adolygiad llenyddiaeth o waith rhyngwladol ar ysgolion pob oed. Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad canlynol (Reynolds et al., tud.11):
- Bod ‘manteision datblygol model pob oed ar addysgeg, ac ymagwedd arloesol a synergyddol at addysgu a dysgu, yn caniatáu ar gyfer cyfuno elfennau mwyaf effeithiol strategaethau addysgu mewn gwahanol sectorau addysgol er budd deilliannau dysgu disgyblion’.
- Mae’n ymddangos bod model ysgol bob oed ‘yn ysgogi datblygiad proffesiynol staff, yn cyfoethogi ac amrywio eu set sgiliau, ac yn ogystal â hyn, yn cynyddu eu cymhwysedd a’u hyder proffesiynol i greu’r amgylchedd dysgu gorau ar gyfer eu disgyblion’.
- ‘Mae parhad yr addysg trwy gydol y cyfnodau allweddol o fewn yr un amgylchedd yn gallu caniatáu mwy o gydlyniant a gostyngiad yn y materion yn gysylltiedig â phontio, a allai, o ganlyniad, leihau straen disgyblion, gwella’u lles a rhoi cyfle gwell iddyn nhw gael deilliannau addysgol mwy ffafriol, ac ansawdd bywyd gwell yn y dyfodol.’
Yn Lloegr a’r Alban, mae ymchwil wedi canolbwyntio ar fudd model ysgol bob oed. Mae papur gan yr Adran Addysg a Sgiliau (2006) yn nodi manteision posibl ond heb unrhyw dystiolaeth i brofi cyflawni’r potensial hwnnw. Yn 2011, darparodd arolygiaeth Yr Alban ganllaw i ymestyn dysgu mewn ysgolion pob oed, a nododd mai’r cryfderau presennol yw’r canlynol (Arolygiaeth Addysg Ei Mawrhydi Yr Alban, 2011, tud.6):
- hinsawdd ac ethos, yn cynnwys ansawdd perthnasoedd
- partneriaethau â rhieni a’r gymuned leol
- bodloni anghenion pobl ifanc ag anghenion cymorth ychwanegol
Mewn adroddiad gan Swidenbank (2007) ar heriau a chyfleoedd arwain a rheoli ysgol bob oed i’r Coleg Cenedlaethol ar gyfer arweinyddiaeth ysgol, amlygwyd cyfleoedd a heriau ar gyfer arweinyddiaeth mewn ysgolion pob oed. Roedd y cyfleoedd yn cynnwys (Swidenbank, 2007, tud.6):
- bod yn rhan o rywbeth newydd a chyffrous
- cael y gallu i newid a datblygu fel arweinydd, sydd, yn ei dro, yn hyrwyddo arweinyddiaeth ddosbarthedig
- lleihau’r rhwystrau rhag dysgu ar draws y sectorau cynradd ac uwchradd
- gwella datblygiad personol a lles myfyrwyr, ac ennill dealltwriaeth well o’r gymuned
- cyflawni gwerth gwell am arian trwy arbedion maint
Dyma’r heriau a amlygwyd (Swidenbank, 2007, tud.11):
- newid y diwylliant a mynd i’r afael â chyd-destun a hanes yr ysgol
- newid amgyffrediad a chodi ymwybyddiaeth am beth mae’n ei olygu i fod yn athro ysgol gynradd neu uwchradd
- pwysau o ran amser a chyfleusterau
Astudiaethau ar raddfa fach yn unig oedd ymchwil ryngwladol yn Jamaica (Prosiect Ysgolion Pob Oed Jamaica, 2003) a’r Ffindir (Wilborg, 2004), a gwnaethant gyffredinoliadau am y system yn eu gwledydd eu hunain.