Ysgolion pob oed yng Nghymru - Adroddiad ar heriau a llwyddiannau sefydlu ysgolion pob oed

Share document

Share this

Y rhesymeg ar gyfer sefydlu ysgol bob oed

Share document

Share this

Er bod cefnogaeth ar gyfer sefydlu ysgolion pob oed, nid oes canllawiau cenedlaethol penodol i sector ar gael i awdurdodau lleol ac arweinwyr ysgolion. Felly, mae gan awdurdodau lleol eu cynlluniau amrywiol eu hunain i weddu i’w hamgylchiadau unigryw. Mae’r rhain bron bob amser yn rhan o gynlluniau trefniadaeth ysgolion ehangach yr awdurdod hwnnw. Yn ychwanegol, nid oes term a gydnabyddir yn gyffredin ar gyfer y sector o fewn ‘Fy ysgol leol’ a’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD), gan gyfeirio atynt fel ysgolion ‘canol’ a rhai eraill fel ysgolion ‘pob oed’. Mae materion nodedig eraill yn cynnwys ychydig bach yn unig o addysg gychwynnol athrawon benodol a dysgu proffesiynol pwrpasol cyfyngedig ar gyfer y sector. Mae Llywodraeth Cymru fel arfer yn cyhoeddi canllawiau ar wahân ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd. Hefyd, caiff mesurau fel trothwyau prydau ysgol am ddim a phresenoldeb eu cyfrifo ar gyfer y sector uwchradd a chynradd ar wahân. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd i ysgolion pob oed sefydlu eu datganiadau sefyllfa eu hunain a chynnal eu hunaniaeth fel un ysgol. Hefyd, mae gan ganllawiau ar wahân y potensial i roi baich ychwanegol ar athrawon ac arweinwyr ysgolion mewn ysgolion pob oed gan fod angen iddynt ddarllen nifer o ddogfennau.

I’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol, mae sefydlu ysgol bob oed yn rhan annatod o’u strategaeth ad-drefnu ysgolion. Adlewyrchir hyn yn nifer gynyddol y cynigion ad-drefnu ynghylch ysgolion pob oed a gyflwynir i Lywodraeth Cymru ar y cyd â’r strategaethau sy’n gysylltiedig â chyllid yr 21ain ganrif.

Modelau

Ledled Cymru, ffurfiwyd ysgolion pob oed o gyfuniadau amrywiol o ysgolion sy’n bodoli eisoes i weddu i anghenion y gymuned leol. Ym mwyafrif yr achosion, mae ysgolion uwchradd yn uno ag ysgolion cynradd. Mae nifer yr ysgolion dan sylw yn amrywio’n sylweddol o dair ysgol uwchradd gydag un ysgol gynradd i un ysgol uwchradd gydag wyth ysgol gynradd. Gellir gweld manylion am fodelau sy’n bodoli ar hyn o bryd yn Atodiad 2.

Mae awdurdodau lleol yn ystyried yn ofalus pa fodel i’w fabwysiadu, a sut mae’n gweddu i’w cynlluniau ad-drefnu. Mae uno sawl ysgol gynradd â’r ysgol uwchradd yn galluogi ychydig o awdurdodau lleol i gau ysgolion y mae eu hadeiladau mewn cyflwr gwael, gan felly leihau ystâd a chostau cynnal a chadw’r ysgol, tra’n ceisio darparu cyfnod pontio esmwyth i ddisgyblion.

Cyllid

Mae ychydig o awdurdodau lleol yn sicrhau cyllid ar gyfer adeiladau newydd i ddarparu ar gyfer yr holl ddisgyblion. Mae’r ysgolion hyn a adeiladwyd yn bwrpasol, a gynlluniwyd yn gyffredinol ar y cyd â disgyblion, rhieni a’r gymuned leol, yn darparu amwynderau gwell o lawr na’r rhai oedd ar gael o’r blaen. Yn gyffredinol, mae awdurdodau’n uwchraddio adeiladau presennol ac yn ychwanegu adeiladau newydd ar y safle presennol, pan fydd angen.

Mae lleihau nifer y safleoedd wedi rhyddhau cyllid cyfalaf ar gyfer awdurdodau lleol. Mae hyn wedi cael ei ailfuddsoddi yng ngwasanaeth addysg yr awdurdod yn bennaf, a’i ddefnyddio i fodloni’r beichiau o ran ailstrwythuro. Mae llawer o’r hen safleoedd wedi cael eu dychwelyd i’r gymuned neu wedi cael eu rhyddhau ar gyfer datblygiad lleol.

Rhesymeg awdurdodau lleol

Cyhoeddodd ychydig o awdurdodau lleol ddatganiad sefyllfa ynglŷn â’r rhesymeg y tu ôl i sefydlu ysgol bob oed. Dangosodd y datganiadau neu’r polisïau hyn fanteision posibl y model pob oed. Roedd hyn o fudd i’r awdurdodau lleol ar gyfer yr ymgynghoriad ffurfiol, a darparodd sylfaen gadarn ar gyfer ystyried ysgolion pob oed yn y dyfodol. Un o’r prif fanteision posibl a nodwyd yw gwella lles disgyblion trwy gydol eu bywyd ysgol. Nodon nhw hefyd fod datblygu addysgeg ysgol gyfan yn nodwedd gadarnhaol ysgolion pob oed a allai arwain at ddysgu gwell a chynnydd cadarn. 

Cafwyd ymatebion amrywiol gan awdurdodau lleol ynglŷn â’r rhesymeg ar gyfer sefydlu ysgol bob oed yn eu hardal. Roedd gan bob achos set unigol o resymau y tu ôl i’r rhesymeg, gan ystyried anghenion y disgyblion yn nalgylch yr ysgol a’r gymuned gyfagos.

Mewn tri awdurdod lleol, nodwyd y byddai agor ysgol bob oed yn diogelu addysg mewn ardaloedd gwledig. Mewn rhai achosion, roedd hyn yn golygu cau ysgolion bach a ffurfio un ysgol fawr yn gwasanaethu ardal ehangach. Nodwyd hefyd bod ad-drefnu a ffurfio ysgol bob oed yn diogelu a datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg trwy uno ysgolion cynradd bach cyfrwng Cymraeg ag ysgol uwchradd fwy, ond sy’n fach o hyd.

Sefydlwyd ychydig o ysgolion pob oed i helpu gwella safonau ysgolion a oedd yn methu yn y gorffennol. Yn yr achosion hyn, credai awdurdodau lleol y byddai uno ysgolion llwyddiannus ag ysgolion sy’n perfformio’n waelach yn darparu arweinyddiaeth gadarn, yn gwella addysgu ac yn arwain at safonau uwch. Ar yr adeg gynnar hon, prin yw’r dystiolaeth fod hyn wedi cael ei gyflawni’n llawn. Hefyd, mae gan yr ymagwedd hon y potensial i greu anfodlonrwydd ymhlith staff ysgol a’r gymuned ehangach. Mewn ychydig o achosion, ysgolion pob oed fu’r model ffafriedig o ran ymateb i ostyngiad yn y niferoedd ar y gofrestr yn yr ardal, yn ogystal â dirywiad mewn cyflwr adeiladau.

Cymorth gan awdurdodau lleol

Mae awdurdodau lleol yn cynorthwyo arweinwyr ysgolion yn briodol â materion yn ymwneud â phersonél, ac yn rhoi arweiniad i ysgolion ar faterion fel diogelu cyflogau a diswyddiadau pan fydd angen. Rhoddir arweiniad cryf i ysgolion ar faterion cyfreithiol ynglŷn â phrosesau i gau ysgolion a sefydlu ysgol newydd, er enghraifft wrth gynnal ymgynghoriadau a delio â’r gymuned. Fodd bynnag, teimlai ychydig o ysgolion nad oedd yr awdurdod lleol bob amser yn gwireddu addewidion a wnaed adeg yr ymgynghori, fel materion ynghylch cyllid, diogelwch swyddi a chymorth.

Yn nyddiau cynnar ystyried ysgolion pob oed fel modelau o ran ad-drefnu ysgolion, tyfodd y rhan fwyaf o heriau o ddiffyg cyfathrebu ac ymgysylltu, gan arwain at ofni’r anghyfarwydd. Daeth llywodraethwyr yn bryderus nad oedd unrhyw ddeddfwriaeth yn diffinio cyfansoddiadau cyrff llywodraethol ar gyfer ysgolion pob oed heblaw ar gyfer ysgolion a gynhelir, yn gyffredinol. Hefyd, disgrifion nhw’r modd nad oedd yr awdurdod lleol bob amser yn gweithio’n ddigon agos â nhw i’w harwain trwy brosesau cymhleth. 

Mewn ychydig o achosion, nid oedd cyfathrebu â chymuned yr ysgol bob amser yn ddigon clir. O ganlyniad, roedd rhieni a staff weithiau’n amgyffred yn anghywir beth oedd bwriadau’r corff llywodraethol a’r awdurdod lleol. Ystyriwyd bod sefydlu ysgol bob oed newydd yn fygythiad i gymunedau lleol trwy gau ysgolion lleol mewn cymunedau bach. Dywed staff eu bod yn teimlo dan fygythiad gan ysgol newydd, ac roeddent yn pryderu am eu swyddi yn y dyfodol. Nid oedd ymgysylltu â’r gymuned leol yn ystod ymgynghori bob amser yn ystyrlon, yn dryloyw nac yn fuddiol i gefnogi newid i wella’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion.

Mewn ychydig o achosion, nid oedd y rhesymeg ar gyfer ffurfio ysgol bob oed yn cynnwys naratif cymhellol am fanteision addysgol i ddysgwyr. Roedd diffyg tryloywder a chyfathrebu wrth ddod â mwy nag un gymuned ysgol at ei gilydd, a oedd yn broblem benodol mewn mwy nag un ardal. Er enghraifft, roedd rhieni’n bryderus am blant ifanc yn cymysgu ac yn rhannu’r un cyfleusterau gyda disgyblion llawer hŷn, ac am effaith newidiadau i hyd y teithiau i ysgolion. Tanamcangyfrifodd yr awdurdod lleol gryfder y teimladau ynghylch ethos a diwylliant ysgolion sy’n bodoli eisoes, ac roedd gwrthwynebiad cryf i ychydig o ysgolion.

At ei gilydd, wrth ystyried y rhesymeg ar gyfer sefydlu ysgol bob oed, ychydig iawn o ymchwil neu arbenigedd sydd gan awdurdodau lleol a chyrff llywodraethol i fanteisio arno yng Nghymru. Ers sefydlu’r ysgolion cyntaf, maent wedi datblygu diwylliant cryf o rannu arfer ac wedi dysgu gwersi gwerthfawr o brofiad blaenorol. O ganlyniad, mae’r ymgynghoriadau diweddaraf yn llawer craffach o ran manteision sefydlu ysgol bob oed. Hefyd, maent yn rhoi sylw priodol i’r effeithiau posibl ar gymunedau, ac yn amlinellu’n glir sut byddai’r ysgol newydd yn effeithio ar ddisgyblion, rhieni a staff. Mae hyn wedi arwain at geisiadau llwyddiannus a chyfnod pontio mwy esmwyth i ysgol bob oed.  

Share document

Share this