Mae trefniadau pontio mewn ysgolion pob oed yn gadarn. Mae llawer ohonynt yn gweithio’n agos iawn gyda’u hysgolion cynradd partner i sicrhau cydlyniant wrth gyflwyno’r cwricwlwm a chymedroli. Mae cynllunio ar y cyd ac arbenigedd pwnc yn yr ysgol a’r clwstwr yn sicrhau parhad pan fydd disgyblion yn pontio i Flwyddyn 7. Gan fod athrawon yn adnabod eu disgyblion o oedran cynnar, mae disgyblion oddi mewn i ysgol bob oed yn ymgynefino’n well ym Mlwyddyn 7 na’r rhai sy’n trosglwyddo o ysgolion cynradd ar wahân. Yn ystod pandemig y coronafeirws, sicrhaodd ysgolion pob oed drefniadau pontio addas trwy weithgareddau arloesol fel teithiau rhithwir o’r ysgol, a sesiynau holi ac ateb gyda staff. Cynhaliwyd diwrnodau rhithwir agored ar gyfer rhieni. Mae llawer o ysgolion pob oed yn elwa ar brofiadau pontio parhaus ble mae disgyblion yn mynychu gwersi’n rheolaidd yn sector uwchradd yr ysgol.
Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion ar ddiwedd Blwyddyn 6 mewn ysgol bob oed yn dechrau Blwyddyn 7 yn yr ysgol honno. Mae ychydig o ddisgyblion o ysgolion partner yn penderfynu peidio â throsglwyddo i’r ysgol bob oed ym Mlwyddyn 7. Mae hyn o ganlyniad i ystod o resymau, yn cynnwys iaith, safonau canfyddedig gwell a phellter teithio.
Yn yr un modd â llawer o ysgolion, os bydd meysydd penodol yn perfformio’n wael, rhoddir cymorth iddynt drwy’r consortiwm rhanbarthol neu’r awdurdod lleol, yn dibynnu ar y cyd-destun. Darperir cymorth mwy cyffredinol yn unol â gwasanaethau cymorth ysgolion ar gyfer ysgolion a allai fod â hanes o berfformio’n wael. Mae hyn yn arbennig o wir lle mae ysgolion mewn categori gweithgarwch dilynol cyn uno.
Un o fanteision posibl ysgol bob oed a dderbynnir yw’r gallu i gydlynu a chynllunio darpariaeth ar draws pob sector. Mae hyn yn cynnwys cynllunio profiadau cyffredin, polisïau addysgu cyson a chynllunio ar gyfer cynnydd di-dor. Mewn llawer o ysgolion, mae athrawon yn cynllunio profiadau ar draws pob sector yn dda. Mae llawer o ysgolion wedi mabwysiadu egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru, ac yn ogystal â gweithredu’r cwricwlwm yn y blynyddoedd cynnar, maent wedi cynllunio ar gyfer cynnydd gyda disgyblion cyfnod allweddol 3.
Mae’r rhan fwyaf o ysgolion wedi penodi arweinwyr ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad, ac ymgorfforir y rolau hyn yn strwythur staffio’r ysgol. Mae cynllunio ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru yn y cyfnod sylfaen yn fwy datblygedig nag ydyw ar gyfer sectorau eraill, ond mewn llawer o achosion, mae cynllunio ar gyfer cyfnod allweddol 2 yn tueddu i ganolbwyntio ar waith prosiect. Mewn ychydig o achosion, mae athrawon yn colli cyfleoedd i ddarparu cwricwlwm digon cyfoethog sy’n datblygu’n naturiol wrth i ddisgyblion symud trwy’r ysgol.
Er bod ysgolion wedi gwneud datblygiadau o ran cynllunio profiadau, ac wedi manteisio ar fod yn ysgol bob oed, nid yw parhad y cwricwlwm yn gryf bob amser. Nid yw arweinwyr ysgol bob oed bob amser yn manteisio ar arbenigedd arweinwyr pwnc wrth gynllunio’r cwricwlwm ar draws yr ysgol. Hyd yn oed mewn achosion lle mae gan un unigolyn gyfrifoldeb am agwedd ar draws yr ysgol gyfan, nid yw bob amser yn deall y camau cynnydd y mae angen i ddisgyblion iau eu cymryd i amgyffred lefelau uwch mewn pwnc. Mae hyn yn golygu nad yw gwaith ar gyfer disgyblion bob amser yn rhoi digon o ystyriaeth i’w dysgu blaenorol, ac nid yw disgwyliadau arweinwyr yn ddigon uchel. Mae gan ychydig o ysgolion fwy nag un aelod o staff sydd â chyfrifoldeb am faes, ac maent yn cadw’r rhaniad rhwng cynradd ac uwchradd. Mewn ychydig o achosion, nid yw ysgolion yn manteisio ddigon ar eu cyfleusterau i wella’r profiadau ar gyfer disgyblion iau.
Mae datblygu cwricwlwm ar gyfer Blwyddyn 5 trwodd i Flwyddyn 8 yn flaenoriaeth i’r rhan fwyaf o ysgolion. Mae ysgolion yn datblygu eu dehongliad o bedwar diben y Cwricwlwm i Gymru (Llywodraeth Cymru, 2020) a cheir cydweithredu da rhwng athrawon o fewn ysgolion a gydag ysgolion eraill. Mae llawer o ysgolion yn rhoi pwyslais cryf ar sicrhau mewnbwn disgyblion i gynllunio’r cwricwlwm ac i beth maent yn ei ddysgu, a sut.
Yn ystod pandemig COVID-19, defnyddiodd y rhan fwyaf o ysgolion pob oed y cyfnodau clo i staff gynllunio a gwerthuso darpariaeth. Roedd hyn yn golygu bod ysgolion yn parhau â’u cynllunio ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru ac yn arbrofi â dulliau newydd gyda’u disgyblion. Roedd hefyd yn gyfle i athrawon roi arweiniad a chymorth i eraill ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm newydd. Datblygodd llawer o athrawon raglenni dysgu o bell a dysgu cyfunol. Fe wnaethant gynllunio’n ofalus a chreu adnoddau dynamig i gefnogi dysgu. Parhaodd hyn pan ddychwelodd disgyblion i’r ysgol, ac mae wedi galluogi athrawon i ddefnyddio dull mwy cyfunol yn eu haddysgu, defnyddio adnoddau digidol a darparu gwaith ar gyfer disgyblion pan na allant fynychu’r ysgol.
Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion pob oed un polisi addysgu sy’n amlinellu disgwyliadau mewn gwersi a chynnydd dros gyfnod. Mae gwella addysgu a chadarnhau materion nad ydynt yn agored i drafodaeth yn brif flaenoriaeth ar gyfer ysgolion pob oed, ac yn cael ei weld hefyd fel cryfder posibl model ysgol bob oed. Mae athrawon yn sefydlu cysondeb darpariaeth ystafell ddosbarth fel arferion, disgwyliadau uchel a ffiniau disgyblu y mae disgyblion yn eu deall a’u derbyn wrth iddynt symud trwy’r ysgol.
Mae llawer o ysgolion yn gwneud defnydd da o arbenigwyr i gyflwyno darpariaeth arbenigol ar wahân yn y sector cynradd, er enghraifft mewn ieithoedd tramor modern, cerddoriaeth a mathemateg. Mae staff yn cydweithio o fewn yr ysgol, a gydag ysgolion eraill. Maent wedi cydnabod bod buddion i staff o gefndir uwchradd ddysgu gan gydweithwyr yn y sector cynradd, ac i’r gwrthwyneb. Ymestynnwyd hyn yn benodol yn ystod y pandemig lle rhoddwyd amser i lawer o staff weithio gyda’i gilydd a datblygu ymdeimlad o undod o fewn yr ysgol. Mewn ychydig o ysgolion, nid oes digon o weithio ar draws sectorau, a cheir ymdeimlad ar gam mai’r ‘sector uwchradd sy’n gwybod orau’.
Mae llawer o ysgolion yn rhannu dulliau asesu fel bod disgyblion yn glir ynglŷn â’r hyn y mae angen ei wneud i wella eu gwaith. Yn yr ysgolion hyn, mae disgyblion yn adnabod drostynt eu hunain sut i wella eu gwaith eu hunain wrth iddynt symud trwy’r ysgol.
Dywed athrawon fod eu haddysgu wedi gwella ers gweithio mewn ysgol bob oed, yn sgil cynllunio gwersi’n fwy gofalus a rhannu syniadau. Mae’n ymddangos bod gan athrawon fwy o barch at eu cymheiriaid sy’n gweithio mewn gwahanol sectorau oedran.