addysgeg |
Dull ac arfer addysgu |
consortia rhanbarthol |
Y ddarpariaeth a sefydlwyd gan grŵp o awdurdodau lleol i gyflwyno gwasanaethau gwella ysgolion fel yr amlinellir ym Model Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Gweithio’n Rhanbarthol (2014) |
Meysydd dysgu a phrofiad |
Mae Dyfodol Llwyddiannus yn cyfeirio at ddatblygu chwe maes dysgu a phrofiad fel ffordd o drefnu pynciau’r cwricwlwm. Y rhain yw’r celfyddydau mynegiannol, iechyd a lles, y dyniaethau, ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu, mathemateg a rhifedd, a gwyddoniaeth a thechnoleg. |
Rhwydwaith cenedlaethol o ysgolion pob oed |
Fforwm ar gyfer ysgolion pob oed yng Nghymru ar gyfer rhannu syniadau ac ymchwil |
Sectorau |
Grwpiau blwyddyn wedi eu dyrannu o fewn ysgol bob oed. Gellir cael hyd at bedwar sector mewn un ysgol. Sector 1: Meithrin i Flwyddyn 4 Sector 2: Blwyddyn 5 i Flwyddyn 8 Sector 3: Blwyddyn 9 i Flwyddyn 11 Sector 4: chweched dosbarth (lle mae’n bresennol) Mae sectorau 2 a 3 yn rhychwantu gwahanol gyfnodau allweddol. |
Ysgol bob oed |
Ysgol sy’n cyfuno o leiaf ddau gyfnod o addysg plentyn (cynradd ac uwchradd, yn nodweddiadol). Cânt eu dosbarthu hefyd yn ysgolion canol a’u diffinio yn ôl ystod oedran y disgyblion y maent yn darparu ar eu cyfer. Naill ai 3-16, 3-19, 4-16 neu 4-19. |