Ysgolion pob oed yng Nghymru - Adroddiad ar heriau a llwyddiannau sefydlu ysgolion pob oed

Share document

Share this

Argymhellion

Share document

Share this

Page Content

Dylai Llywodraeth Cymru:

A1    Ystyried cyflwyno canllawiau cenedlaethol i ysgolion pob oed i gefnogi ysgolion pob oed, eu harweinwyr, llywodraethwyr ac awdurdodau lleol    

Dylai awdurdodau lleol / consortia rhanbarthol:

A2    Sicrhau bod ymgynghori ar sefydlu ysgol bob oed yn ystyrlon, yn dryloyw ac yn fuddiol o ran ymgysylltu â’r gymuned leol i gefnogi newid i wella’r ddarpariaeth ar gyfer eu plant   

A3    Penodi arweinwyr ar gyfer ysgolion pob oed newydd yn gynnar i ddarparu digon o amser cynllunio a pharatoi

A4    Darparu hyfforddiant a chymorth â ffocws gwell, sy’n benodol i sector, er enghraifft i wella arfer ystafell ddosbarth ar draws pob sector o’r ysgol

Dylai ysgolion:

A5    Barhau i gynllunio a darparu cwricwlwm cyfoethog sy’n symud ymlaen yn naturiol ar draws yr ystod oedran lawn

A6    Cydweithio ymhellach ag ysgolion eraill i ddatblygu polisïau a gweithdrefnau pob oed, a rhannu arfer dda  

Share document

Share this