Ysgolion pob oed yng Nghymru - Adroddiad ar heriau a llwyddiannau sefydlu ysgolion pob oed

Share document

Share this

Cyflwyniad

Share document

Share this

Page Content

Disgwylir i’r arolwg thematig hwn gefnogi Llywodraeth Cymru trwy gyflawni’r amcanion canlynol:

  • Canolbwyntio ar heriau a llwyddiannau’r model pob oed
  • Darparu adroddiad am gyflwr y genedl ar ysgolion pob oed   

Mae’r sector ysgolion pob oed yn sector sy’n tyfu, gyda mwy na dwywaith nifer yr ysgolion yn agor yn 2020 o gymharu â 2017. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar dri maes eang, sef: 

  • Y rhesymeg ar gyfer sefydlu ysgol bob oed
  • Sefydlu ysgolion pob oed
  • Effaith model ysgol bob oed

Gellir diffinio ysgol bob oed fel ysgol sy’n cyfuno o leiaf ddau gam o addysg plentyn (cynradd ac uwchradd, yn nodweddiadol). Yng Nghymru, caiff ysgolion pob oed eu dosbarthu’n ysgolion canol, a’u diffinio yn ôl ystod oedran y disgyblion y maent yn darparu ar eu cyfer. Gallai hyn fod naill ai o 3 neu 4 oed i 16 neu 19 oed. Mae’r rhan fwyaf o’r ysgolion pob oed yng Nghymru yn darparu addysg ar gyfer disgyblion rhwng 3 ac 16 mlwydd oed, ac felly’n cynnwys darpariaeth feithrin. Mae tua hanner ohonynt yn cynnwys chweched dosbarth hefyd, sy’n estyn yr ystod oedran i fyny i 19 mlwydd oed. Mae tua hanner yr ysgolion pob oed yn ysgolion cyfrwng Saesneg, a’r ysgolion eraill yn rhai cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog. Yn 2021, mae darpariaeth sylfaen adnoddau mewn chwe ysgol bob oed.

Casglwyd tystiolaeth gan dîm o 12 AEM a dau arolygydd cymheiriaid trwy ymweld â phob un o’r ysgolion pob oed sydd ar agor yng Nghymru. Cysylltwyd ag awdurdodau lleol i gael eu barn trwy gyfuniad o alwadau ffôn ac ymweliadau. 

Cyn dechrau’r pandemig ym mis Mawrth 2020, yn ystod ymweliadau â darparwyr, bu’r tîm yn cyfweld ag arweinwyr ac athrawon. Cyfarfuon nhw â llywodraethwyr a chynnal teithiau dysgu. Casglwyd barn disgyblion trwy gyfweliadau yn ystod yr ymweliadau hyn. Rhoddwyd y disgyblion mewn grwpiau bach gyda’u gwaith i ddangos enghreifftiau a thystiolaeth o’r hyn roeddent yn ei ddweud. Cafodd y gwaith thematig hwn ei oedi oherwydd y pandemig, ac ailddechreuodd gweithgarwch ym mis Ebrill 2021. Ar yr adeg hon, nid oedd y tîm yn gallu arsylwi gwersi na chymryd rhan mewn teithiau dysgu. Roedd cyfweliadau â staff a disgyblion wedi’u cyfyngu oherwydd cyfyngiadau COVID-19. O ganlyniad, yn lle hynny, dadansoddodd arolygwyr wybodaeth bresennol am ysgolion pob oed i sefydlu’r cyd-destun a’r cefndir. Hefyd, ystyrion nhw dystiolaeth ar gyfer y 12 ysgol bob oed a arolygwyd. Gan mai yn ei ddyddiau cynnar o hyd y mae’r sector ysgolion pob oed, gellir ystyried hwn yn adroddiad cychwynnol ar gyflwr y sector.

Share document

Share this