Mewn ychydig o ysgolion cynradd a gynhwyswyd yn yr arolwg, mae gan ddisgyblion wybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o hanes eu hardal leol a Chymru. Yn yr ysgolion hyn, mae disgyblion yn deall cyfraniad digwyddiadau ac unigolion lleol a Chymreig at hanes. Mewn ychydig iawn o ysgolion cynradd, mae disgyblion yn datblygu gwybodaeth am hanes eu hardal leol ac yn dechrau creu cysylltiadau rhwng eu hardal leol a hanes Cymru a’r byd ehangach. Yn yr ysgolion hyn, gall llawer o ddisgyblion esbonio sut mae unigolion a digwyddiadau wedi helpu i lunio’r gymuned maent yn byw ynddi heddiw. Ym mwyafrif yr ysgolion cynradd, nid oes gan ddisgyblion lawer o wybodaeth am y digwyddiadau hanesyddol sydd wedi llunio eu hardal leol, ac ychydig iawn o bobl arwyddocaol yn hanes Cymru y gallant eu henwi.
Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Mount Stuart yn ymchwilio i ddatblygiad y diwydiant glo ac ardal y dociau yng Nghaerdydd. Mae disgyblion yn trafod ac yn archwilio sut arweiniodd twf a datblygiad codi glo a’r chwyldro diwydiannol at allforio deunyddiau crai i wledydd o gwmpas y byd. Mae disgyblion yn datblygu dealltwriaeth gadarn o sut y ffurfiodd y digwyddiadau hyn fewnfudo a’u cymuned leol dros amser. Mae disgyblion yn gwerthfawrogi ac yn parchu ystod o safbwyntiau wrth drafod profiadau pobl yn eu cymuned ac yng Nghymru.
Yn y rhan fwyaf o ysgolion cynradd, mae gan ddisgyblion wybodaeth a dealltwriaeth gyfyngedig iawn o hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig. Gall llawer ohonynt siarad yn wybodus am unigolion o hanes rhyngwladol, fel Martin Luther King a Rosa Parks ond, yn gyffredinol, mae gan ddisgyblion ddealltwriaeth gyfyngedig iawn o’u harwyddocâd a’u cyfraniad at hanes. Mewn ychydig iawn o ysgolion, mae gan ddisgyblion wybodaeth a dealltwriaeth helaeth o gyfraniad unigolion a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig at hanes Cymru a’r Deyrnas Unedig. Er enghraifft, maent yn deall pwysigrwydd yr ymgyrch i ddiwygio deddfwriaeth cysylltiadau hiliol ar ôl llofruddiaeth Stephen Lawrence. Yn yr achosion hyn, mae disgyblion yn creu cysylltiadau rhwng digwyddiadau fel llofruddiaeth George Floyd, mudiad Mae Bywydau Du o Bwys a’u heffaith ar ddigwyddiadau yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig.
Yn gyffredinol, mae gallu disgyblion ysgol gynradd i alw digwyddiadau a bywyd hanesyddol yng Nghymru i gof ar ei gryfaf pan fyddant wedi ymweld ag amgueddfa neu safle hanesyddol, fel Amgueddfa Lleng Rufeinig Caerllion, Amgueddfa Lofaol Cymru Big Pit neu blasty Plas Mawr o oes Elisabeth yng Nghonwy. Mewn llawer o ysgolion cynradd, nid yw disgyblion yn defnyddio ffynonellau crai yn effeithiol, gan gynnwys tystiolaeth uniongyrchol, i ddatblygu eu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r gorffennol, yr ardal leol a Chymru. Nid yw disgyblion yn ystyried safbwyntiau a dehongliadau gwahanol mewn hanes yn ddigon da oherwydd nad yw athrawon yn cynnig llawer o gyfleoedd iddynt wneud hynny.
Mewn llawer o ysgolion uwchradd, gall disgyblion cyfnod allweddol 3 adrodd ychydig o storïau o hanes Cymru, er enghraifft digwyddiadau Terfysgoedd Beca. Fodd bynnag, ym mwyafrif yr achosion, nid yw disgyblion yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn a chydlynol o hanes eu hardal leol na Chymru gyfan. Nid ydynt yn creu cysylltiadau rhwng unigolion a digwyddiadau yn hanes Cymru â hanes Prydain a’r byd. Mae hyn oherwydd y caiff hanes lleol a hanes Cymru eu cynnwys fel elfen ‘ychwanegol’ o’r cwricwlwm hanes. Mewn ychydig iawn o ysgolion, mae disgyblion yn datblygu dealltwriaeth gref o hanes lleol a hanes Cymru lle caiff cysylltiadau eu creu i esbonio arwyddocâd digwyddiadau, newidiadau ac unigolion hanesyddol. Mae’r disgyblion hyn yn meddwl yn ddadansoddol i greu cysylltiadau a chymariaethau â digwyddiadau mewn gwledydd eraill ac o safbwyntiau gwahanol.
Yn y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd, nid yw disgyblion yn datblygu eu gwybodaeth a dealltwriaeth o hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn ddigon da. Mewn ychydig iawn o ysgolion lle mae athrawon yn cynnig cyfleoedd wedi’u dethol yn ofalus i ddisgyblion ystyried hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, maent yn dangos dealltwriaeth o faterion fel caethwasiaeth, gwladychu a diwedd ymerodraeth, a gallant greu cysylltiadau â digwyddiadau fel yr hil-laddiad yn Rwanda a hiliaeth heddiw. Nid oes gan y rhan fwyaf o ddisgyblion ddealltwriaeth o sut mae unigolion a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig wedi cyfrannu at hanes Cymru.
Mae pob disgybl sy’n dilyn TGAU hanes yn astudio hanes Cymru fel rhan o’u hastudiaeth thematig. Mae faint o hanes Cymru y mae disgyblion yn ei astudio yng ngweddill y cwrs yn dibynnu ar yr unedau y mae ysgolion yn eu dewis. Mae’r amrywiant o ran cynnwys unedau a chwestiynau TGAU yn ei gwneud yn anodd barnu pa mor dda mae disgyblion yn deall hanes Cymru. Gellir dweud yr un peth am hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae tystiolaeth o adroddiad yr arholwyr yn haf 2019 yn awgrymu mai nodwedd gyffredin ar draws yr holl bapurau thematig oedd nad oedd disgyblion yn cyfeirio at y cyd-destun Cymreig yn ddigon da yn eu hatebion.
Ar lefel UG a Safon Uwch, mae ysgolion yn dewis astudio testunau o ystod sy’n cael ei chynnig ym manyleb yr arholiad. Mae’r amrywiant o ran cyfleoedd i astudio hanes Cymru mewn testunau a chwestiynau arholiad yn ei gwneud yn anodd barnu pa mor dda mae disgyblion yn cyflawni mewn unedau sy’n cynnwys elfennau o hanes Cymru. Mae cyfleoedd i ddisgyblion astudio hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y manylebau Safon Uwch yn gyfyngedig ac yn canolbwyntio’n bennaf ar hanes rhyngwladol.