addysgeg |
Dull ac arfer addysgu. |
consortiwm rhanbarthol |
Darpariaeth a sefydlwyd gan grŵp o awdurdodau lleol i gyflwyno gwasanaethau gwella ysgol, fel yr amlinellir ym Model Cenedlaethol ar gyfer Gweithio’n Rhanbarthol Llywodraeth Cymru. |
Cynefin |
Y lle rydym yn teimlo ein bod yn perthyn, lle mae’r bobl a’r dirwedd o’n cwmpas yn gyfarwydd, a’r golygfeydd a’r synau’n gysurol o adnabyddadwy. Er y caiff ei gyfieithu fel ‘habitat’ yn aml, nid lle mewn synnwyr ffisegol neu ddaearyddol yn unig yw cynefin: lle hanesyddol, diwylliannol a chymdeithasol ydyw, sydd wedi siapio ac yn parhau i siapio’r gymuned sy’n byw ynddo. (Cwricwlwm i Gymru, Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau, Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig). |
Cysyniadau disgyblaethol |
Y cysyniadau sy’n tanategu disgyblaeth hanes. Mae’r rhain yn cynnwys cronoleg, newid a pharhad, achos ac effaith, tystiolaeth, dehongliadau, cynrychiolaethau, safbwyntiau, cwestiynau, gwerthuso, arwyddocâd, llunio barn, dilysrwydd a chydgysylltiad. |
Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth |
Elusen addysgol wrth-hiliaeth a sefydlwyd ym 1996 yw Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth. Mae’r sefydliad yn defnyddio statws proffil uchel pêl-droed a phêl-droedwyr i helpu i fynd i’r afael â hiliaeth yn y gymdeithas. |
datganiadau o’r hyn sy’n bwysig |
Datganiadau sy’n nodi cysyniadau allweddol ym meysydd dysgu a phrofiad y Cwricwlwm i Gymru. |
dod i gasgliad |
Deall gwybodaeth neu safbwynt nad yw’n eglur yn y testun. Mae disgyblion yn cymryd gwybodaeth o’r testun, yn rhagfynegi, yn ychwanegu eu syniadau eu hunain, yn dod i gasgliadau ac yn llunio barn i greu dehongliad o’r testun. |
Gwrth-hiliaeth |
Y polisi o herio hiliaeth a hyrwyddo cydraddoldeb hiliol. |
Gwybodaeth a chysyniadau gwirioneddol |
Gwybodaeth am y gorffennol. Mae cysyniadau gwirioneddol yn cynnwys amrywiaeth, cymuned, awdurdod, llywodraethu, dinasyddiaeth, cyfiawnder a chydraddoldeb. |
Gwybodaeth a dealltwriaeth ddisgyblaethol |
Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r ddisgyblaeth, sef hanes yn yr achos hwn. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth a dealltwriaeth o gysyniadau disgyblaethol a gwirioneddol, a sut y gellir eu cynllunio a’u haddysgu. |
Hanes Pobl Dduon Cymru 365 |
Mae Hanes Pobl Dduon Cymru 365 yn dathlu hanes a threftadaeth Affricanaidd ac Affricanaidd-Caribïaidd yng Nghymru drwy gydol y flwyddyn. |
Lleiafrif Ethnig |
Grŵp o bobl o ddiwylliant neu hil benodol sy’n byw mewn gwlad lle mae’r prif grŵp o ddiwylliant neu hil wahanol. |
Maes Dysgu a Phrofiad (MDaPh) |
Mae chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn y Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys MDaPh y dyniaethau. |
Merched y Wawr |
Sefydliad gwirfoddol i fenywod yng Nghymru a sefydlwyd ym 1967. Mae dau gant wyth deg o ganghennau ledled Cymru yn trefnu cyfarfodydd a gweithgareddau rheolaidd. |
Mis Hanes Pobl Dduon |
Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn ddathliad sy’n para mis o gyfraniadau pobl o dras Affricanaidd ac Affricanaidd‑Caribïaidd i hanes lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Fel arfer, caiff Mis Hanes Pobl Dduon ei gynnal ym mis Hydref. |
rhagfarn ddiarwybod |
Ffafriaeth neu ragfarn nad yw’r unigolyn sydd â’r ffafriaeth neu’r rhagfarn honno yn ymwybodol ohoni. Gallai’r rhagfarn effeithio ar ymddygiad a phenderfyniadau. |
uwch fedrau darllen |
Fel arfer, mae’r rhain yn cynnwys medrau lleoli, ad-drefnu, dod i gasgliad, gwerthuso a gwerthfawrogi. |
Addysgu hanes Cymru gan gynnwys hanes, hunaniaeth a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
Document options
Geirfa
Numbers – quantities and proportions
bron bob un = |
gydag ychydig o eithriadau |
y rhan fwyaf = |
90% neu fwy |
llawer = |
70% neu fwy |
mwyafrif = |
dros 60% |
hanner = |
50% |
tua hanner = |
yn agos at 50% |
lleiafrif = |
o dan 40% |
ychydig = |
o dan 20% |
ychydig iawn = |
llai na 10% |