Addysgu hanes Cymru gan gynnwys hanes, hunaniaeth a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Share document

Share this

Cefndir

Share document

Share this

Page Content

Bu addysgu hanes a diwylliant Cymru yn destun dadl ddwys cyn ac ar ôl sefydlu’r cwricwlwm cenedlaethol ym 1988. Mae llofruddiaeth George Floyd a mudiad Mae Bywydau Du o Bwys wedi rhoi ffocws o’r newydd ar addysg gwrth-hiliaethicon icon ac addysgu am hanes a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig mewn ysgolion ers haf 2020.

Pan sefydlwyd y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr ym 1988, cytunwyd y byddai gan rai pynciau, gan gynnwys hanes, raglenni astudio gwahanol yng Nghymru. Y nod oedd i’r cwricwlwm cenedlaethol i Gymru adlewyrchu diwylliant, amgylchedd, economi a hanes Cymru, a’r dylanwadau sy’n siapio’r Gymru sydd ohoni. Ym 1993 a 2003, nododd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (ACCAC) (2003) yr angen am ragor o arweiniad ar ddatblygu’r Cwricwlwm Cymreig, a chyhoeddodd ddeunyddiau ac adnoddau ategol i ysgolion. Yn 2001, cyhoeddodd ACCAC (2001) adroddiad ‘Cyfle cyfartal ac amrywiaeth yn y cwricwlwm ysgol yng Nghymru’. Yn 2001 a 2005, cyhoeddom adroddiadau thematig ar ‘Y Cwricwlwm Cymreig’ (Estyn, 2005). Yn 2005, adroddom fod ansawdd cynllunio gan ysgolion ar gyfer y Cwricwlwm Cymreig wedi gwella ers arolwg Estyn yn 2001, ac mewn llawer o’r dosbarthiadau yr ymwelwyd â nhw, bod disgyblion yn datblygu gwybodaeth, medrau a dealltwriaeth dda o’r ffordd y mae digwyddiadau hanesyddol, pobl a thirweddau wedi dylanwadu ar arlunwyr, beirdd ac awduron mewn amrywiol rannau o Gymru. Yn yr un flwyddyn, crybwyllom fod lleiafrif o ysgolion wedi defnyddio’r arweiniad ar gyfle cyfartal ac amrywiaeth yn y cwricwlwm ysgol yng Nghymru yn effeithiol.

Yn 2008, diwygiwyd y Cwricwlwm Cenedlaethol i Gymru. Roedd dogfennau arweiniad y cwricwlwm yn cyfeirio at y Cwricwlwm Cymreig (7-14 oed) a Chymru, Ewrop a’r Byd (14-19 oed). Roedd yr arweiniad yn pwysleisio cyfraniad hanes at y Cwricwlwm Cymreig o ran helpu dysgwyr i ddeall y ffactorau sydd wedi llunio Cymru drwy astudio hanes lleol a hanes Cymru. Mae’r arweiniad hefyd yn manylu y dylai ysgolion ddatblygu dulliau sy’n datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth, medrau, gwerthoedd ac agweddau disgyblion i’w galluogi i gyfranogi yng nghymdeithas amlethnig Cymru.

‘Dylai dysgwyr 7–14 oed gael cyfleoedd i ddatblygu a chymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o nodweddion diwylliannol, economaidd, amgylcheddol, hanesyddol ac ieithyddol Cymru. Dylai dysgwyr 14-19 oed gael cyfleoedd i ymgysylltu’n weithredol wrth ddeall agweddau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol ar Gymru fel rhan o’r byd cyfan. Bydd hanes yn cyfrannu at y Cwricwlwm Cymreig trwy wneud hanes lleol a hanes Cymru yn ffocws yr astudiaeth a chynorthwyo dysgwyr i ddeall y ffactorau sydd wedi llunio Cymru a gwledydd eraill heddiw.’ (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2008, t.8).

‘Dylai ysgolion feithrin ym mhob dysgwr ymdeimlad o hunaniaeth bersonol a diwylliannol sy’n dderbyngar ac yn parchu eraill. Dylai ysgolion gynllunio ar draws y cwricwlwm i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau, gwerthoedd ac agweddau a fydd yn galluogi dysgwyr i gymryd rhan yn ein cymdeithas amlethnig yng Nghymru. Dylai ysgolion ddatblygu ymagweddau sy’n cefnogi hunaniaeth ethnig a diwylliannol pob dysgwr ac sy’n adlewyrchu ystod o safbwyntiau, er mwyn cael ymrwymiad dysgwyr a’u paratoi am fywyd fel dinasyddion byd-eang.’ (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2008, t.4)

Yn 2010, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru arweiniad ar ‘Undod ac amrywiaeth’ i gynorthwyo ysgolion i ddatblygu egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2010).

Yn 2012, sefydlodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau grŵp gorchwyl a gorffen, wedi’i gadeirio gan Dr Elin Jones, i lunio adroddiad i Lywodraeth Cymru (2013) ar y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru. Nododd y grŵp gorchwyl a gorffen fod agweddau ysgolion tuag at y Cwricwlwm Cymreig yn amrywio’n eang, er enghraifft drwy drin y dimensiwn Cymreig fel adendwm i raglenni astudio neu bwysleisio’r cyd‑destun lleol a chyd-destun Cymru ar draul y cysylltiadau rhwng Cymru a’r byd. Aeth y grŵp gorchwyl a gorffen ymlaen i awgrymu bod ‘nifer o ddysgwyr yn ysgolion Cymru yn dysgu mwy am hanes Lloegr nac am hanes eu bro a’u gwlad eu hunain’ (Llywodraeth Cymru, 2013, t.12). Roedd y prif argymhellion o’r adroddiad yn ymwneud â hanes Cymru yn cynnwys:

  • Wrth adolygu’r cwricwlwm cenedlaethol, dylai’r rhaglen astudio gael ei hailstrwythuro, er mwyn rhoi arweiniad pendant ar y berthynas rhwng hanes lleol, Cymru, Prydain, Ewrop a’r byd ehangach. Y nod fyddai rhoi sylfeini cadarn i ddealltwriaeth hanesyddol dysgwyr tra’n ymestyn eu gorwelion.
  • Dylai pob manyleb TGAU Hanes a gynigir yng Nghymru gynnwys elfen integredig a gorfodol o hanes Cymru.
  • Dylid cytuno ar restr o gwestiynau/themâu/topigau penodol i’w datblygu ar Hwb+ fel bod modd i’r sector addysg uwch a’r sector treftadaeth gydweithio gydag athrawon i ddatblygu adnoddau blaengar, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.
  • Dylai’r adnoddau hyn i gyd bwysleisio natur amodol hanes, ac amrywiaeth profiad ymhob cyfnod. Dylent gynorthwyo dysgwyr i wrthgyferbynnu a chymharu profiadau gwahanol garfannau o bobl ymhob cyfnod. (Llywodraeth Cymru, 2013, t.22)

Yn 2014, gofynnodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau i’r Athro Donaldson gynnal adolygiad o drefniadau’r cwricwlwm ac asesu yng Nghymru o’r cyfnod sylfaen i gyfnod allweddol 4. Amlinellodd yr adroddiad canlyniadol, sef Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015), gynigion ar gyfer cwricwlwm newydd ac argymell y dylid cymhwyso’r egwyddor o sybsidiaredd i’r broses o ddiwygio’r cwricwlwm. Mae’r Cwricwlwm i Gymru wedi’i lywio gan ddibenion yn hytrach na chynnwys, sy’n caniatáu i ysgolion ddylunio a datblygu eu cwricwlwm eu hunain. Mae ychydig o randdeiliaid ym myd addysg yng Nghymru o’r farn bod y Cwricwlwm i Gymru yn cynnig cyfle ac yn peri bygythiad i gynnwys hanes a diwylliant Cymru mewn ysgolion.

Ym mis Tachwedd 2019, cyhoeddodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2019) adroddiad ar addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru i lywio ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Cwricwlwm i Gymru 2022. Ystyriodd y pwyllgor dystiolaeth gan ystod o randdeiliaid, gan gynnwys aelod o grŵp gorchwyl a gorffen y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru, a fynegodd rwystredigaeth ynghylch y diffyg cynnydd o ran datblygu addysgu hanes Cymru, yn enwedig o ystyried y cyhoeddwyd adroddiad y grŵp yn 2013 (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2019, t.8). Darparodd Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru dystiolaeth gan ddisgyblion Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i’r pwyllgor yn amlinellu eu pryderon nad oedd unrhyw beth yn y cwricwlwm am fod yn ddu ac yn Gymry. Roedd hefyd yn feirniadol o wybodaeth arwynebol athrawon o hanesion amrywiol (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2019, t.19)

Ym mis Gorffennaf 2020, penododd Llywodraeth Cymru yr Athro Charlotte Williams i arwain gweithgor i gynghori ar, a gwella, addysgu themâu yn ymwneud â chymunedau a phrofiadau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar draws pob rhan o’r cwricwlwm. Roedd argymhellion y gweithgor yn cynnwys y canlynol:

  • creu adnoddau dwyieithog newydd i gynorthwyo i addysgu hanes a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
  • cryfhau’r Datganiad o’r Hyn sy’n Bwysig i adlewyrchu bod Cymru yn gymdeithas amlddiwylliannol sydd â hanes maith o amrywiaeth, ac i leddfu’r perygl y caiff profiadau a chyfraniadau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig eu hymyleiddio
  • rhoi canllawiau i annog ysgolion i fyfyrio ar amrywiaethu’r cwricwlwm
  • darparu dysgu proffesiynol ar hyd gyrfaoedd athrawon (Williams, 2021, t.11-15)

Ym mis Ionawr 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru (Llywodraeth Cymru, 2020). Eu nod yw helpu ysgolion i ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain a galluogi eu disgyblion i ddatblygu tuag at bedwar diben y Cwricwlwm i Gymru. Dylai ysgolion fod â gweledigaeth i ddatblygu cwricwlwm sy’n cynorthwyo i ddatblygu ymdeimlad disgyblion o hunaniaeth yng Nghymru. Dylai ysgolion ddylunio eu cwricwlwm mewn ffordd sy’n galluogi disgyblion i ystyried cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, a datblygu dealltwriaeth o addysg hawliau dynol ac amrywiaeth. Mae hyn yn cynnwys addysg hawliau dynol a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae’r canllawiau ar gyfer thema drawsbynciol amrywiaeth yn cyfeirio at ‘adnabod a dathlu natur amrywiol grwpiau cymdeithasol a chymunedau, a sicrhau bod y cwricwlwm yn adlewyrchu’r amrywiaeth honno a’i fod yn gallu ymateb i brofiadau’r grwpiau a’r cymunedau hynny’ (Llywodraeth Cymru, 2020, t.42). Yn ogystal, ‘dylai dealltwriaeth dysgwyr o Gymru hefyd gydnabod y ffordd y mae safbwyntiau, gwerthoedd a hunaniaethau yn siapio Cymru, yn hytrach na chyflwyno darlun nodweddiadol o hunaniaeth Gymreig unffurf’ (Llywodraeth Cymru, 2020, t.45). Mae’r canllawiau’n cyfeirio at gyfleoedd fel:

  • creu cysylltiadau â chymunedau a sefydliadau lleol
  • dysgu am amrywiaeth ddiwylliannol, gwerthoedd, hanes a thraddodiadau mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
  • deall y gwahanol hunaniaethau, hanes, diwylliannau, safbwyntiau a gwerthoedd sy’n llywio cymunedau a chymdeithasau
  • datblygu ymdeimlad dilys o gynefin, gan ddatblygu gwybodaeth am wahanol ddiwylliannau a hanes, a’u galluogi i feithrin ymdeimlad cryf o hunaniaeth unigol a deall sut mae hyn yn cysylltu â dylanwadau ehangach ac wedi’u llywio ganddyn nhw
  • manteisio ar hanesion a gwahanolrwydd ardal leol ysgol
  • cydnabod etifeddiaeth ieithyddol a diwylliannol amrywiol Cymru a’i chysylltiadau y tu hwnt i Gymru
  • cydnabod y cysylltiadau rhwng cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan ddeall y ffordd y maen nhw’n dylanwadu ar ei gilydd yn barhaus

Ym mis Mai 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru (2021) ddogfen ymgynghori ar ddatganiadau drafft Cod yr Hyn sy’n Bwysig. Ym maes dysgu a phrofiad y dyniaethau, mae’r newidiadau’n cynnwys gwneud cyfeiriadau at hanes Cymru yn fwy eglur. Hefyd, cryfhawyd y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig i gyfeirio at ddatblygu dealltwriaeth disgyblion o hanes amrywiol, treftadaeth ddiwylliannol, amrywiaeth ethnig, hunaniaethau, profiadau a safbwyntiau eu hardal leol, Cymru a’r byd ehangach. Caiff canllawiau Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru eu cyhoeddi yn ystod hydref 2021.

Mae ysgolion uwchradd a gynhelir yng Nghymru yn addysgu TGAU diwygiedig CBAC mewn hanes, a ddechreuodd ym mis Medi 2017 i’w dyfarnu o 2019. Nod y cymhwyster TGAU yw galluogi dysgwyr i:

  • feithrin ac ymestyn eu gwybodaeth a dealltwriaeth am hanes Cymru a’r persbectif Cymreig ar hanes
  • caffael dealltwriaeth o hunaniaethau gwahanol o fewn cymdeithas, yn cynnwys eu cymdeithas eu hunain, a dirnadaeth o agweddau cymdeithasol, diwylliannol, crefyddol ac amrywiaeth ethnig
  • adeiladu ar eu dealltwriaeth o’r gorffennol ac amrywiaeth y profiad dynol drwy gael profiad o gwrs astudio eang a chytbwys

Mae’r maes llafur TGAU yn cynnwys pedair uned: dwy astudiaeth fanwl sy’n dwyn y teitlau ‘Cymru a’r persbectif ehangach’ a ‘Hanes yn canolbwyntio ar Ewrop/y byd’, ‘astudiaeth thematig o bersbectif hanesyddol eang’ ac asesiad di-arholiad yn dwyn y teitl ‘Gweithio fel hanesydd’. Mae pob astudiaeth fanwl yn cynnig pedwar opsiwn i ysgolion ddewis ohonynt. Mae manyleb yr astudiaeth thematig yn arwain athrawon i amlygu effaith newid ar Gymru yn y cyd-destun hanesyddol ehangach.

Dechreuodd ysgolion addysgu’r cymhwyster Uwch Gyfrannol/Safon Uwch ym mis Medi 2015. Mae nodau ac amcanion y cymhwyster Uwch Gyfrannol a’r Safon Uwch yn cynnwys:

  • annog dysgwyr i ddod i ddeall hunaniaethau gwahanol o fewn cymdeithas a gwerthfawrogi agweddau cymdeithasol, diwylliannol, crefyddol ac amrywiaeth ethnig, fel y bo’n briodol
  • dylai dysgwyr gael cyfleoedd, lle y bo’n briodol, i ystyried persbectif Cymreig os bydd cyfle i wneud hynny’n deillio'n naturiol o'r deunydd pwnc ac os byddai gwneud hynny'n cyfoethogi dealltwriaeth dysgwyr o’r byd o’u cwmpas fel dinasyddion o Gymru yn ogystal â’r DU, Ewrop a’r byd.

Share document

Share this