Addysgu hanes Cymru gan gynnwys hanes, hunaniaeth a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Share document

Share this

Cyflwyniad

Share document

Share this

Page Content

Cytunodd Estyn â Llywodraeth Cymru i gynnal arolwg cyflwr y genedl er mwyn ymateb i ddau argymhelliad gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru. 

Mae’r argymhellion yn amlinellu y dylai Estyn:

  • adolygu addysgu hanes Cymru mewn ysgolion a’r dystiolaeth o’r graddau y mae ysgolion yn bodloni gofynion y manylebau TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch o ran addysgu cynnwys Cymreig
  • adolygu sut mae amrywiaeth yn cael ei addysgu mewn ysgolion, ac ystyried a yw’r hanes sy’n cael ei addysgu mewn ysgolion yn cynrychioli holl gymunedau Cymru a’u cysylltiadau rhyngwladol (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2019).

Yn dilyn y digwyddiadau yn ystod haf 2020 a mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, cytunodd Estyn â Llywodraeth Cymru y dylai’r adolygiad ystyried hanes, hunaniaeth a diwylliant Cymru a’r cymunedau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ehangach.

Mae’r adroddiad yn cynnwys tystiolaeth o safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth mewn addysgu hanes a diwylliant Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig mewn ysgolion cynradd, uwchradd, arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion. Bydd yr adolygiad hefyd yn cynnwys enghreifftiau o arfer orau i ddangos lle mae hanes a diwylliant Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael eu datblygu’n effeithiol. 

Cynulleidfa fwriadedig yr adroddiad hwn yw Llywodraeth Cymru, penaethiaid a staff mewn ysgolion, partneriaethau addysg gychwynnol athrawon, swyddogion awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol. Bydd canfyddiadau’r adroddiad hefyd yn helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu a gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru.

Cafodd y gweithgarwch a oedd wedi’i gynllunio ar gyfer yr adolygiad thematig ei adolygu a’i addasu oherwydd yr aflonyddwch yr achosodd COVID-19 i addysg yn ystod 2020 a 2021. Mae’r adroddiad yn defnyddio canfyddiadau o arolygiadau a gynhaliwyd cyn mis Mawrth 2020, ymweliadau rhithiol ag ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau), a nifer fach o ymweliadau ar y safle ag ysgolion cynradd ac uwchradd. Ymgynghorodd arolygwyr ag ystod eang o randdeiliaid hefyd, gan gynnwys rhieni, cynrychiolwyr o sefydliadau addysg uwch, academyddion a staff consortia rhanbarthol.

Share document

Share this