Mewn ychydig o enghreifftiau effeithiol dros ben, mae adrannau hanes yn cynllunio eu cwricwlwm yn strategol, yn canolbwyntio ar addysgu a dysgu, a’r ffordd orau i ddatblygu addysgegiconDull ac arfer addysgu. icon pwnc effeithiol. Wrth feddwl am gynnwys eu cwricwlwm, mae’r adrannau hyn yn sicrhau cydbwysedd rhwng gwybodaeth, datblygu dealltwriaeth disgyblion o gyd-destunau a medrau, a dylunio cyfleoedd ystyrlon i ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a TGCh. Mae’r adrannau hyn yn defnyddio ystod o ddulliau, gan gynnwys cynllunio cwestiynau ymholi treiddgar sy’n ysgogi ac yn herio disgyblion i feddwl yn ddwfn.
Mae lleiafrif o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion yn dechrau cynllunio ac arbrofi â sut y gallant gynnwys mwy o hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn eu cwricwlwm cyfnod allweddol 3. Mae testunau’n canolbwyntio’n bennaf ar hanes rhyngwladol, gan gynnwys profiadau pobl ddu yn America yn y 1920au, Mudiad Hawliau Sifil America ac apartheid yn Ne Affrica. Ychydig iawn o ysgolion sy’n addysgu disgyblion am gyfraniad unigolion a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i hanes Cymru. Lle caiff hyn ei wneud yn dda, mae dulliau’n cynnwys dewis cwestiynau ymholi sy’n galluogi disgyblion i archwilio safbwyntiau gwahanol a hanesion amryfal. Er enghraifft, wrth astudio’r chwyldro diwydiannol yng Nghymru, mae un ysgol wedi datblygu cyfleoedd i ddisgyblion archwilio cysylltiadau Cymru â chaethwasiaeth, a diddymwyr a gwrthddiddymwyr Cymreig.
icon
Mae uned cyfeirio disgyblion Sir Ddinbych yn Ysgol Plas Cefndy yn datblygu ac yn archwilio ymholiad hanesyddol wedi’i seilio ar y cwestiwn ‘Pam mae gan Venus Williams gyfenw Cymreig?’ Mae disgyblion yn archwilio ac yn trafod cysylltiadau Cymru â’r fasnach gaethion. Mae hyn yn galluogi disgyblion i ymchwilio ac ystyried effaith y gorffennol ar gymdeithas heddiw, a materion fel hiliaeth gyfundrefnol, rhagfarn ac Mae Bywydau Du o Bwys. Mae hyn yn helpu disgyblion i ddatblygu dealltwriaeth o Gymru fel cenedl amlddiwylliannol.
Yn y rhan fwyaf o ysgolion, nid oes gan athrawon lawer o wybodaeth am yr hyn y mae dysgwyr wedi’i ddysgu am hanes lleol a hanes Cymru yng nghyfnod allweddol 2. O ganlyniad, mae disgyblion yn aml yn ailadrodd testunau a gweithgareddau. Mewn ychydig iawn o achosion, mae ysgolion cynradd clwstwr yn cydweithio â’u hysgol uwchradd i gytuno ar yr hyn sy’n cael ei addysgu mewn hanes, gan gynnwys hanes lleol a hanes Cymru, yng nghyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3. Mae hyn yn galluogi ysgolion i gynllunio ar gyfer addysgu hanes, a sut maent yn creu cysylltiadau rhwng hanes lleol, hanes Cymru a hanes byd-eang. Nid yw’r rhan fwyaf o ysgolion yn cynllunio ar gyfer dilyniant pan fyddant, neu os byddant, yn cynnwys testunau ar hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn eu cwricwlwm.
Mewn lleiafrif o ysgolion, mae cyfleoedd disgyblion i astudio ystod o destunau a dyfnhau eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o hanes lleol, Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn gyfyngedig. Mae ffactorau sy’n effeithio ar hyn yn cynnwys:
- ailadrodd testunau yng nghyfnod allweddol 3, cyfnod allweddol 4 ac, mewn rhai achosion, yn y chweched dosbarth
- ffocws athrawon yng nghyfnod allweddol 3 ar sut i ateb cwestiynau TGAU, sy’n cyfyngu ar ddisgyblion yn datblygu medrau hanesyddol ehangach
- mabwysiadu cyfnod allweddol 4 sy’n para tair blynedd, sy’n culhau ehangder y profiadau sy’n cael eu cynnig i ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 3
Yng nghyfnod allweddol 4, mae adrannau hanes yn dewis unedau i’w hastudio o’r rhai sy’n cael eu cynnig gan y bwrdd arholi. Cytuna’r rhan fwyaf o ysgolion fod y ffocws ar hanes Cymru wedi’i gryfhau pan ddiwygiwyd y manylebau TGAU i’w haddysgu o 2016. Dywed ysgolion bod y gofyniad i ddewis un astudiaeth fanwl ar ‘Cymru a’r persbectif ehangach’, a chynnwys cwestiynau arholiad sy’n gofyn i ddisgyblion gyfeirio at y safbwynt Cymreig, wedi cael effaith gadarnhaol ar faint o hanes Cymru sy’n cael ei astudio. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn ystyried arbenigedd athrawon, yr adnoddau sydd ar gael, argaeledd dysgu proffesiynol, lefel y diddordeb sy’n cael ei dangos gan ddisgyblion, pa mor anodd y mae testunau’n gysyniadol, a maint y cynnwys wrth ddewis unedau i’w hastudio. Mae lleiafrif o ysgolion yn cyfeirio at ddiffyg adnoddau a dysgu proffesiynol ar hanes Cymru fel rhesymau pam y maent yn osgoi dewis unedau penodol. Yn gyffredinol, nid yw athrawon yn elwa’n llawn ar y dimensiwn Cymreig, gan eu bod yn canolbwyntio ar ofynion penodol yr arholiadau’n unig.
Mae cyfleoedd disgyblion i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng nghyfnod allweddol 4 yn dibynnu ar y pynciau maent yn eu dewis ar gyfer TGAU a’r unedau y mae’r ysgol yn eu dewis. Mewn hanes, gall ysgolion ddewis astudio ‘UDA: Gwlad Gwahaniaethau’ neu ‘Newidiadau yn Ne Affrica, 1948-1994’ fel astudiaethau manwl, a ‘Newidiadau ym Mhatrymau Mudo’ fel astudiaeth thematig. Fel yng nghyfnod allweddol 3, ychydig iawn o gyfle sydd i astudio hanes cymunedau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru. Ychydig iawn o ysgolion, sef y rhai sydd â nifer fawr o ddisgyblion o leiafrifoedd ethnig fel arfer, sy’n ystyried cefndir ethnig eu disgyblion wrth ddewis unedau i’w hastudio.
Mewn hanes UG a Safon Uwch, mae ysgolion yn dewis unedau astudio o’r rhai sy’n cael eu cynnig gan y bwrdd arholi. Rhaid iddynt ddewis seilio naill ai’r astudiaeth o gyfnod neu’r astudiaeth fanwl ar agweddau ar hanes Cymru a Lloegr. Mae faint o hanes Cymru sydd wedi’i gynnwys yn yr unedau yn amrywio rhwng y testunau, sy’n caniatáu i ysgolion ddewis addysgu am Gymru neu beidio. Mae ysgolion yn cyfeirio at ddiffyg adnoddau fel y prif reswm pam maent yn dewis peidio ag astudio unedau sy’n cynnwys mwy o hanes Cymru. Mae cyfleoedd i astudio hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar Safon Uwch mewn unedau ar hanes America, er enghraifft cyfleoedd i astudio’r rhyfel sifil a hawliau sifil. Mae ychydig o ysgolion o’r farn bod manyleb yr arholiadau’n rhwystr rhag addysgu mwy o hanes Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
Mae’r ysgolion arbennig y cysylltwyd â nhw yn datblygu cwricwlwm sy’n ymateb i anghenion eu disgyblion, ac yn canolbwyntio ar brofiadau dilys a chyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu medrau. Mae’r ysgolion hyn yn cynllunio cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ddysgu am eu hardal leol a Chymru. Er enghraifft, mae un ohonynt yn defnyddio’r thema ‘Fi, fy hunan a’m cymuned’ (‘Me, myself and my community’) i gynnig cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu i ddefnyddio eu synhwyrau. Mae un arall yn defnyddio’r thema cestyll a chwedlau fel cyd-destun i ddatblygu medrau disgyblion. Mae ysgolion arbennig yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion gael profiad o ddiwylliannau eraill drwy gerddoriaeth, dathliadau a bwyd. Maent yn dechrau ystyried sut gallant wella eu dull o addysgu amrywiaeth.
Mae ychydig iawn o ysgolion cynradd ac uwchradd yn archwilio neu’n mapio eu darpariaeth ar gyfer addysgu amrywiaeth a chynrychiolaeth cyfraniad unigolion a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig mewn hanes ac ar draws y cwricwlwm. Nid yw ysgolion yn cynllunio sut gallant gynnwys testunau fel gwrth‑hiliaeth, tuedd ddiarwybod, rhagfarn ac amrywiaeth yn ddigon da.
icon
Fel rhan o’i pharatoadau ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, edrychodd Ysgol Stanwell ar ba mor dda mae’n cynrychioli ac yn cynnwys profiadau unigolion a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar draws y cwricwlwm. Amlinellodd adrannau pwnc eu darpariaeth gyfredol a chyfleoedd i ddatblygu ymhellach, gan gynnwys cysylltiadau ag adnoddau posibl. Mae hyn wedi codi ymwybyddiaeth athrawon o bwysigrwydd cynrychiolaeth a chynhwysiant wrth iddynt gynllunio eu cwricwlwm. Er enghraifft, mewn drama yng nghyfnod allweddol 3, mae disgyblion yn astudio rhagfarn, ystrydebau a gwahaniaethu. Mae’r adran yn archwilio sut y gall gynnwys gwaith gan ysgrifenwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig mewn gwersi. Mewn gwersi hanes, mae disgyblion Blwyddyn 7 yn astudio mudo dros amser, gan gynnwys effaith y Rhufeiniad, Tuduriaid Du a datblygiad Tiger Bay.