Dylai ysgolion:
- A1 Sicrhau bod disgyblion yn datblygu eu gwybodaeth a dealltwriaeth o hanes a diwylliant eu hardal leol a Chymru, wrth ystyried safbwyntiau gwahanol a chreu cysylltiadau â hanes a diwylliant y byd ehangach
- A2 Sicrhau bod disgyblion yn datblygu dealltwriaeth o wrth-hiliaeth ac amrywiaeth, a sut y gallant ddod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus Cymru a’r byd
- A3 Sicrhau bod disgyblion yn datblygu dealltwriaeth o sut mae unigolion a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cyfrannu at hanes a diwylliant Cymru a’r byd ehangach
- A4 Gwerthuso eu cwricwlwm a darpariaeth i gynllunio sut byddant yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o hanes lleol a hanes Cymru, gwrth hiliaeth ac amrywiaeth, a hanes a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
- A5 Cryfhau trefniadau pontio fel bod profiadau dysgu ar gyfer hanes lleol, Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn adeiladu ar rai’r cyfnodau allweddol blaenorol ac yn osgoi ailadrodd gwaith
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
- A6 Gynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol addas i athrawon ddatblygu eu gwybodaeth am hanes lleol a hanes Cymru, ac i rannu arfer orau
- A7 Cynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol addas i athrawon ddatblygu eu gwybodaeth a dealltwriaeth o addysgu amrywiaeth, gwrth-hiliaeth, a hanes a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru a’r byd ehangach
- A8 Cynnig cymorth i ysgolion i werthuso eu cwricwlwm a darpariaeth gyfredol ar gyfer hanes a diwylliant lleol a Chymru, a hanes a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, a sut i gynllunio ar gyfer gwella
- A9 Cynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol i athrawon ddatblygu eu haddysgu o ran medrau pwnc penodol mewn hanes a’r dyniaethau, yn enwedig i athrawon nad ydynt yn arbenigwyr
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A10 Gydweithio ag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i sicrhau bod yr arlwy dysgu proffesiynol genedlaethol yn rhoi blaenoriaeth uchel i ddatblygu hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer gwrth-hiliaeth, amrywiaeth ac addysgu hanes a diwylliant lleol, Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
- A11 Cydweithio â Cymwysterau Cymru i sicrhau bod cymwysterau TGAU a Safon Uwch yn y dyfodol yn cynnwys cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu dealltwriaeth o hanes a diwylliant lleol, Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig