Pan gânt y cyfle i wneud hynny, mae disgyblion yn mwynhau dysgu am hanes, hunaniaeth a diwylliant lleol a Chymru. Er enghraifft, mae disgyblion yn mwynhau dysgu am ddigwyddiadau fel Tryweryn, Cilmeri a Therfysgoedd Beca. Yn benodol, maent yn mwynhau gweithgareddau lle maent yn dysgu am arwyddocâd digwyddiadau ac unigolion lleol yng nghyd-destun hanes Cymru, Prydain a’r byd. Pan gânt gyfle i astudio hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, mae disgyblion yn mwynhau astudio cyfraniad unigolion amrywiol at hanes, fel John Ystumllyn, Martin Luther King, Harriet Tubman a Nelson Mandela. Wrth iddynt aeddfedu, mae disgyblion yn gwerthfawrogi sut bydd eu dealltwriaeth o hanes a diwylliant yn eu helpu i ddatblygu’n ddisgyblion moesegol a gwybodus o Gymru a’r byd. Mae disgyblion yn mwynhau trin arteffactau a thystiolaeth gyffyrddadwy, darllen nofelau wedi’u seilio ar ddigwyddiadau hanesyddol, defnyddio adnoddau digidol, a pharatoi a chyflwyno dadleuon wrth ystyried safbwyntiau gwahanol.
Ym mwyafrif yr ysgolion, nid oes gan ddisgyblion lawer o wybodaeth am y digwyddiadau hanesyddol sydd wedi ffurfio eu hardal leol, ac ni allant enwi llawer o Gymry arwyddocaol o hanes. Nid ydynt yn creu cysylltiadau rhwng unigolion a digwyddiadau yn hanes Cymru â hanes Prydain a’r byd, ac nid ydynt yn datblygu dealltwriaeth o sut mae cysyniadau hanesyddol allweddol yn berthnasol i gyd destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. O ganlyniad, nid ydynt yn datblygu dealltwriaeth gysyniadol gynyddol a chydlynol o hanes Cymru. Yn aml, mae hyn oherwydd nad yw cyfleoedd i astudio hanes lleol a chenedlaethol yn cael eu cynllunio’n strategol. Mewn ychydig o ysgolion, mae gan ddisgyblion wybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o hanes lleol a hanes Cymru. Mewn ychydig iawn o ysgolion, gwna disgyblion gysylltiadau ystyrlon rhwng eu hardal leol a hanes Cymru, Prydain a’r byd. Yn gyffredinol, mae gallu disgyblion i alw digwyddiadau a bywyd hanesyddol yng Nghymru i gof ar ei gryfaf pan fyddant wedi ymweld ag amgueddfa neu safle hanesyddol sy’n dod â’r digwyddiadau hyn yn fyw.
Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae gan ddisgyblion wybodaeth a dealltwriaeth gyfyngedig o hanes pobl a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Gall llawer o ddisgyblion enwi unigolion o hanes rhyngwladol ond, yn gyffredinol, mae ganddynt ddealltwriaeth gyfyngedig o’u harwyddocâd hanesyddol. Nid yw’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwybod am hanes unigolion a chymunedau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru. Mewn ychydig iawn o ysgolion, lle mae hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig wedi’i flaenoriaethu a’i gynllunio’n dda, mae disgyblion yn datblygu dealltwriaeth eang o hanes o sawl safbwynt.
Pan ddiwygiwyd manylebau TGAU i’w haddysgu o 2016, cafodd y gofyniad i ddewis un astudiaeth fanwl ar ‘Cymru a’r persbectif ehangach’ effaith gadarnhaol ar faint o hanes Cymru sy’n cael ei astudio. Fodd bynnag, mae faint o hanes Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n cael ei astudio gan ddisgyblion TGAU a Safon Uwch yn dibynnu gormod o hyd ar y pynciau sy’n cael eu dewis gan ddisgyblion, a’r testunau sy’n cael eu dewis o’r ystod sy’n cael eu cynnig gan y bwrdd arholi. Mae’r gwahaniaeth o ran faint o hanes Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n cael ei gynnwys mewn testunau yn ei gwneud yn anodd asesu a chymharu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o hanes Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae adroddiad yr arholwyr TGAU yn haf 2019 yn awgrymu na chyfeiriodd disgyblion yn ddigon da at gyd-destun Cymru yn eu hatebion ar draws yr holl bapurau thematig.