Yn y rhan fwyaf o’r ysgolion cynradd y cysylltwyd â nhw, mae uwch arweinwyr ac arweinwyr canol yn nodi pwysigrwydd defnyddio’r ardal leol i addysgu disgyblion am hanes a hunaniaeth Gymreig mewn cyd-destun ystyrlon. Mae’r arweinwyr hyn yn cydnabod bod y Cwricwlwm newydd i Gymru yn cynnig cyfle sylweddol i gyfoethogi a gwella addysgu hanes lleol a hanes Cymru.
Mewn ysgolion cynradd, ychydig iawn o arweinwyr pwnc sydd â chymwysterau ffurfiol mewn hanes, er bod gan y rhan fwyaf ohonynt wybodaeth a dealltwriaeth o sut i gynllunio i addysgu hanes. Lle mae darpariaeth ar gyfer addysg hanes Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar ei chryfaf, mae gan arweinwyr pwnc hanes neu’r dyniaethau awch cryf am y pwnc. Yn yr arfer orau, maent:
- yn ysbrydoli ac yn cydweithio ag aelodau staff eraill i ymchwilio i’w hardal leol a Chymru
- yn meithrin cysylltiadau â grwpiau cymunedol a safleoedd hanesyddol i gynnig dysgu proffesiynol i staff a chyflwyno profiadau gwerthfawr i ddisgyblion
- yn cynnig cymorth ac arbenigedd effeithiol, er enghraifft i helpu athrawon i greu cysylltiadau ystyrlon rhwng hanes lleol, hanes Cymru a chyd-destunau rhyngwladol
- yn dewis ffynonellau crai, gan gynnwys ffynonellau cynradd ac eilaidd, i ysbrydoli dysgu disgyblion
- yn gwerthuso safonau a darpariaeth yn rheolaidd i nodi lle y gellir gwneud gwelliannau
Mae uwch arweinwyr mewn llawer o ysgolion cynradd yn ymwybodol o amrywiaeth fel thema drawsbynciol wrth iddynt ddylunio’r Cwricwlwm i Gymru. Maent yn cydnabod yr angen i gynllunio sut mae disgyblion yn datblygu eu dealltwriaeth o sut mae cymunedau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig wedi cyfrannu at ddatblygu Cymru a’r byd ehangach. Mae llawer ohonynt yn ymwybodol o bwysigrwydd gweld cynrychiolaethau cadarnhaol o Bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y cwricwlwm, a sut gall delfrydau ymddwyn amrywiol gael dylanwad cadarnhaol ar gymuned yr ysgol. Mae lleiafrif o ysgolion yn dechrau cynnwys yr agweddau hyn yn eu darpariaeth er, mewn rhai achosion, mae hyn wedi’i gyfyngu i destunau arunig, fel Mis Hanes Pobl Dduon.
Ymgysylltodd Ysgol Gynradd Pilgwenlli â bocsiwr lleol, Mo Nasir, a aned yn Yemen, i godi dyheadau disgyblion ac archwilio’r cysyniad o hunaniaeth. Enillodd Mo Nasir fedal Efydd yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2006. Ymwelodd Mo Nasir â’r ysgol i arwain sesiynau addysg gorfforol a siarad am bwysigrwydd gweithio’n galed ac ymgysylltu ag addysg. Cafodd disgyblion eu hysbrydoli gan ei lwyddiant ac ymgysylltu â phrofiadau newydd i hybu eu hiechyd a lles.