Fel man cychwyn ar gyfer adolygu arfer gyfredol, gall ysgolion ddefnyddio’r cwestiynau canlynol yn rhan o’u hunanwerthusiad:
Addysgu hanes Cymru gan gynnwys hanes, hunaniaeth a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
Document options
Atodiad 1: Cwestiynau i ddarparwyr
Safonau
- Sut ydym ni’n gwybod y safonau y mae disgyblion yn eu cyflawni mewn hanes, yn enwedig safonau mewn hanes lleol, hanes Cymru a hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig?
- Sut ydym ni’n gwybod pa mor dda mae disgyblion yn gwneud cynnydd yn eu gwybodaeth a dealltwriaeth o hanes lleol, hanes Cymru a hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig?
- Pa mor dda mae disgyblion yn adrodd eu gwybodaeth a dealltwriaeth o hanes lleol, hanes Cymru a hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig?
- Pa mor dda mae disgyblion yn creu cysylltiadau rhwng digwyddiadau yn eu hardal leol, Cymru a’r byd ehangach? Pa mor dda mae disgyblion yn creu cysylltiadau rhwng hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru a’r byd ehangach?
- Pa mor dda mae disgyblion yn ystyried safbwyntiau a dehongliadau gwahanol mewn hanes lleol a hanes Cymru, gan gynnwys hanes a safbwyntiau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig?
- Pa mor dda mae disgyblion yn defnyddio ffynonellau hanesyddol i ddatblygu dealltwriaeth o hanes lleol, Cymru a hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig?
Darpariaeth
Pa mor aml ydym ni:
- yn sicrhau bod y cwricwlwm yn cynnwys ystod eang o destunau, gan gynnwys cyfleoedd rheolaidd i astudio hanes lleol a hanes Cymru, i helpu disgyblion i ddatblygu’n ddinasyddion moesegol a gwybodus o Gymru a’r byd?
- yn sicrhau bod y cwricwlwm yn galluogi disgyblion i ystyried hanes o safbwyntiau gwahanol, gan gynnwys hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru a’r byd ehangach?
- yn sicrhau bod y cwricwlwm yn galluogi disgyblion i greu cysylltiadau rhwng hanes yr ardal leol, Cymru a’r byd ehangach?
- yn cynllunio cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau hanes a’u dealltwriaeth o gysyniadau disgyblaethol a gwirioneddol wrth astudio hanes lleol, hanes Cymru a hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig?
- yn cynllunio cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu dealltwriaeth o wrth-hiliaeth, rhagfarn, tuedd ac amrywiaeth?
- yn sicrhau bod cyfleoedd i ddatblygu llythrennedd, rhifedd, a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) yng nghyd-destun hanes lleol, Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn ystyrlon?
- yn sicrhau nad ydym yn ailadrodd testunau a/neu fedrau yng nghyfnod allweddol 3 y mae disgyblion eisoes wedi rhoi sylw iddynt yng nghyfnod allweddol 2, a’n bod yn adeiladu ar eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth?
- yn sicrhau bod tasgau’n adeiladu ar y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sy’n cael eu datblygu mewn meysydd pwnc eraill mewn ysgolion uwchradd, ac nad yw gwaith tebyg yn cael ei ailadrodd wrth greu cysylltiadau trawsgwricwlaidd?
- yn defnyddio ymweliadau ac ymwelwyr i gyfoethogi’r cwricwlwm?
- yn sicrhau bod ein darpariaeth ar gyfer diwylliant Cymreig yn datblygu dealltwriaeth disgyblion o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru, ei hamrywiaeth a rôl y Gymraeg?
Arweinyddiaeth
Pa mor dda ydym ni:
- yn monitro’r safonau y mae disgyblion yn eu cyflawni mewn hanes lleol, Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i lywio penderfyniadau yn ymwneud â’n darpariaeth ar gyfer y meysydd hyn?
- yn ystyried pa mor hyderus y mae ein hathrawon yn teimlo o ran addysgu testunau yn ymwneud â hanes Cymru a hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig?
- yn cynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol addas i staff ddatblygu eu harbenigedd mewn addysgu disgyblion am yr ardal leol a Chymru?
- yn cynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol addas i staff ddatblygu eu haddysgu am wrth-hiliaeth, amrywiaeth, a hanes a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig?
- yn gwrando ar randdeiliaid, gan gynnwys disgyblion a rhieni?