Deunyddiau dysgu proffesiynol ar ddarllen ar gyfer arolygwyr
Rydym wrth ein bodd â’r ymateb cadarnhaol i’r deunyddiau darllen a rannwyd yn ystod ein digwyddiadau diweddaru a dysgu proffesiynol yn haf 2026. Gwyddom fod llawer o ysgolion yn awyddus i ddefnyddio’r adnoddau hyn i gefnogi dysgu proffesiynol gyda’u staff eu hunain.
Datblygwyd y deunyddiau yn bennaf i fod yn ddeunyddiau cymorth arolygu ar gyfer Arolygwyr Ei Fawrhydi, Arolygwyr Cofrestredig, arolygwyr ychwanegol ac arolygwyr cymheiriaid. Eu diben oedd meithrin dealltwriaeth ar y cyd o arfer effeithiol a chryfhau cysondeb ac ansawdd gweithgarwch arolygu ledled Cymru. Ni chawsant eu cynllunio yn wreiddiol i fod yn adnoddau dysgu proffesiynol ar gyfer ysgolion, ac mae angen hwyluso medrus ar lawer ohonynt, a’u rhoi yn eu cyd-destun i’w defnyddio yn unol â’r bwriad. Cafodd sawl un o’r gweithgareddau, y senarios a’r astudiaethau achos eu datblygu’n benodol ar gyfer hyfforddiant arolygwyr, ac maent yn fwyaf effeithiol pan gânt eu defnyddio fel rhan o raglen dysgu proffesiynol wedi’i strwythuro’n ofalus.
O’r herwydd, rydym yn defnyddio dull fesul cam i rannu adnoddau yn ehangach. Cyn cyhoeddi deunyddiau, mae angen eu hadolygu, eu haddasu a sicrhau eu hansawdd i sicrhau eu bod yn briodol ar gyfer arweinwyr ac ymarferwyr ysgolion, ac y gellir eu defnyddio’n effeithiol y tu hwnt i’w cyd-destun gwreiddiol, sef hyfforddiant arolygu. Ar hyn o bryd, gallwn rannu detholiad o gyflwyniadau wedi eu recordio sy’n amlinellu ein ffocws manylach ar ddarllen, a rannwyd eisoes trwy ein digwyddiadau hyfforddiant diweddaru ac ymgysylltu:
Accordion item body
Accordion item body
Ar 17 Chwefror 2027, byddwn yn cynnal cynhadledd ar y cyd â Dysgu yng Nghaerdydd yn canolbwyntio ar ddarllen, lle byddwn yn cyflwyno deunyddiau darllen ychwanegol sy’n gysylltiedig â dullâ dull Estyn o arolygu mewn ysgolion a gynhelir ac UCDau.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yma: Ffocws ar ddarllen gydag Estyn a Dysgu
Bydd adnoddau llythrennedd a darllen ychwanegol yn cael eu haddasu a’u rhyddhau trwy gydol y flwyddyn academaidd fel rhan o’n gwaith parhaus i gefnogi ysgolion, arweinwyr canol a phartneriaid gwella ysgolion.
Rydym yn gwerthfawrogi’r diddordeb cryf yn y gwaith hwn ac edrychwn ymlaen at weithio gyda darparwyr addysg i gefnogi gwelliannau mewn darllen ledled Cymru.