Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) - Estyn

Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI)


Gall offerynnau AI fod yn ddefnyddiol, ond gallant hefyd gyflwyno gwallau neu greu gohebiaeth rhy gymhleth sy’n cynyddu’r baich ar gyrff cyhoeddus a’r gost i drethdalwyr.

Wrth ddefnyddio AI i helpu i ddrafftio gohebiaeth, gwnewch yn siŵr fod y geiriad terfynol wedi’i wirio a’i fod yn adlewyrchu eich anghenion gwirioneddol.

Cyn i chi gyflwyno gohebiaeth gychwynnol neu eilaidd, gwiriwch y canlynol.

Eich bod ond yn gofyn am y wybodaeth neu’r canlyniad rydych chi wir yn chwilio amdani/amdano – weithiau, mae offerynnau AI yn cynhyrchu geiriad eang neu ormodol sy’n mynd y tu hwnt i’r wybodaeth neu’r canlyniad sydd ei (h)eisiau neu ei (h)angen arnoch.

Bod yr ohebiaeth yn glir, yn gryno ac yn ffocysedig – mae gohebiaeth fer a syml yn haws i chi ei phrosesu ac fel arfer yn arwain at ymatebion cyflymach a mwy cywir.

Nad oes unrhyw anghywirdebau ffeithiau amlwg – gall AI gamliwio deddfwriaeth neu gamddatgan yr hyn y mae sefydliadau’n ei wneud. Edrychwch yn ofalus ar destun eich gohebiaeth a pheidiwch â thybio bod AI yn gywir. Os yw wedi cyfeirio at rywbeth nad ydych yn ei deall, gwiriwch beth ydyw.

Bod y tôn yn briodol – weithiau, gall cynnwys sy’n cael ei lunio gan AI swnio’n swta neu’n amhriodol, fel arall. Gwiriwch y tôn cyn anfon.

Pam mae hyn o bwys?

Rydym yn gweld cynnydd mewn gohebiaeth gychwynnol ac eilaidd sy’n ymddangos fel petai wedi’i drafftio gan AI. Gall hyn fynnu eglurhad ychwanegol oherwydd anghywirdebau neu gymhlethdod diangen. Mae ceisiadau clir a ffocysedig yn ein helpu i ymateb yn gyflymach ac yn fwy cywir.