Ysgol Y Parc Infants - Estyn
Cynradd - Cyngor Sir Ddinbych

Ysgol Y Parc Infants

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

Ciplun

Defnydd medrus athrawon o ddarpariaeth awyr agored yr ysgol i gyfoethogi dysgu disgyblion

Mae darpariaeth awyr agored yr ysgol yn nodwedd hynod effeithiol o’i chwricwlwm, gan ennyn diddordeb disgyblion a darparu ystod eang o gyfleoedd dysgu pwrpasol a dilys. Mae staff yn gwneud defnydd buddiol o ddeunyddiau naturiol a’r amgylchedd lleol i gyfoethogi’r dysgu mewn ffordd ystyrlon. Mae fferm yr ysgol, yr ysgol goedwig a’r ardd eco yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion archwilio’r byd naturiol, gan feithrin eu chwilfrydedd, eu hannibyniaeth a’u gwydnwch. Mae bron bob disgybl yn siarad yn frwdfrydig am y profiadau hyn ac yn cael eu hysbrydoli i ddysgu am y byd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

Manylion

Cyfeiriad

Ruthin Road
Denbigh
LL16 3ER